Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sicrhau lle oesol iddo ei hun yn nheml clod. Eto, ei waith achlysurol yn unig oedd y rhain, a gwreichion yn tasgu oddi ar ei eingion. Ei brif waith oedd sefydlu ysgol ramadegol yn ei ardal, ac yr oedd yn gymaint diwygiwr â Daniel Rowland, a bron yn gymydog iddo, ond ei fod ef yn cefnogi yr ochr addysgol o'r deffroad. Pan oedd Daniel Rowlands yn taranu yn Ffair Rhos, a'r Ffairhosiaid yn dawnsio gan ryw wallgofrwydd crefyddol, gwenu oedd Edward Richard ar yr olygfa. A phan anfonodd Gân y Bont i Daniel Rowland, beirniadaeth hwnnw amdani oedd fod y canu'n dda ond y testun ddim cystal. Cynhyrchion deffroad y ddeunawfed ganrif oedd y ddau, ond eu bod yn perthyn i'r ddwy ysgol wahanol a oedd mewn llawn gwaith ar y pryd. Creid cymaint o sŵn gan ysgol Daniel Rowland nes tueddu'r wlad i anwybyddu gwaith distaw a pharhaol yr ysgol a gynrychiolid gan Edward Richard, y bu i'w lafur distaw, ei hunanaberth mawr, a'i gariad angerddol at ei gyd-genedl, ac at ei fro enedigol, ddylanwadu ar yr ysbryd cynhyrfus ac afreolus a ddeffroisid gan Daniel Rowland. Er nad oedd fawr gydymdeimlad rhwng y naill a'r llall yn bersonol, gwelir yn eglur yn awr fod eu gwaith yn rhedeg yn gyfochrog, a'r ddau yr un mor angenrheidiol i wir gynnydd, a'u bod yn yfed o'r un ysbryd, ac yn offerynnau yn yr un mudiad. Yr oedd teimlad Daniel Rowland yn ddyfnach a mwy angerddol, tra oedd Edward Richard yn fwy pwyllog ac yn gweled ymhellach. Heddiw y mae'r teimlad dwfn a'r gwelediad pell yn ymgymysgu ac yn nesu at ei gilydd i godi'r hen wlad yn ei blaen.

Un o arwyddion addawol y dyddiau hyn yw fod Cymru yn bwrw golwg mwy pwyllog ar y dylanwadau a fu'n cyfeirio'i cherddediad, ac yn eu holrhain yn ôl i'w ffynonellau.

A mi yn y myfyrdodau hyn cododd chwa dyner i ogleisio fy arleisiau, a dyrchefais fy ngolygon i weld yr haul yn tynnu gorchudd tenau dros ei wynepryd, ac yn machlud yn fflamgoch yn y Gorllewin. Syrthiai natur yn raddol i drymgwsg. Distawai holl ferched cerdd. Yn y penelin draw yr oedd yr hen fynachlog yn ymwisgo mewn mantell dew o niwl ac yn ei lledu fel gwrthban dros y llechweddau cyfagos. Yr oedd yn ddistawrwydd a ellid ei deimlo. Ar i fyny yr oedd fy