hanes yn enwau'r tai a'r tiroedd o amgylch, ymhell ac agos. Mynnai'r dychymyg redeg yn ôl i'r Oesoedd Canol, pan oedd y frawdoliaeth yma yn ei bri, a gwaith y dydd wedi ei ddosbarthu’n drefnus, a phawb i'w gwaith. Bu am rai canrifoedd yn dŷ elusen, gweddi, ac ympryd. Ac yn awr nid yw ond hen fagwyr ers dim a dim i bedwar cant o flynyddoedd, ac ni cheir "i dosturio wrth ei llwch hi", ond ambell hynafiaethydd gyda'i gaib a'i raw yn cloddio at ei lloriau, a datguddio’i cholofnau. Y mae ei bil i'r fro, ac i Gymru, yn un hir, a heb ei dalu i gyd eto. Wrth "amgylchu'i thyrau hi", bron na chlywn yr hen fynach hwnnw ar ei dymchweliad wrth grwydro'r llechweddau o amgylch, yn cwynfan—"Daw, fe ddaw dial; daw, fe ddaw”.
Fel y mae teithiwr yn symud o un lle i'r llall yn cael golygfeydd newyddion yn barhaus i ddenu ei fryd, yn yr un modd fe symuda neu fe'i symudir i oesoedd gwahanol, a hyn a ddigwyddodd i minnau fwy nag unwaith ar fy mhererindod. Ymhen ychydig ar ôl cefnu ar "fur Ystrad Fflur a'i phlas", croesais y bont y dywedodd Edward Richard amdani,
Na welwyd un ellyll na bwbach mor erchyll
Erioed yn trawsefyll tros afon.
Ac yr oeddwn yn Ystrad Meurig, ac yn y ddeunawfed ganrif. Gwir fod yma haenau hŷn o hanes, ac yn enwedig ar y bryncyn y safai yr hen gastell arno, a'm tywysai'n ôl i amser y Normaniaid, ac yn ei gerrig sy'n awr ym muriau beudai yr Henblas. Yr oedd yr hen eglwys, a ddisodlwyd gan yr eglwys newydd bresennol, yn cysylltu'r lle â'r hen fynachlog yn yr un modd ag y cysylltir Ysbyty Ystwyth, Ysbyty Cynfyn, a Phont y Gŵr Drwg. Oedd, yr oedd yma haenau ar haenau o hanes, a llawer o'r rheiny yn dangos dylanwad aruthrol yr hen Fynachlog.
Y gwrthrych y teimlwn i ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd oedd Edward Richard a'i safle yn y ddeunawfed ganrif. Ond ni ellir ei enwi ef heb gofio ei fugeilgerdd a gyhoeddwyd gyntaf mewn hen almanac. Wrth fynd heibio, diddorol yw canfod tebygrwydd ei brofiad ar ôl ei fam, Gwenllian, i brofiad Tennyson ar ôl ei gyfaill, Arthur Hallam. Weithiau y mae'r ddau yn hynod o debyg yn eu mynegiadau o'u profiad. Pe na chyflawnasai Edward Richard ond hyn, byddai wedi