Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r llall ar ein llwybr, a minnau'n gwrando ar leisiau o'r amser gynt. Yr oeddwn i â gorffennol i'm bywyd, ac ar y cyfan ei lawenydd yn gorbwyso ei dristwch ac yn gallu sibrwd wrth fy nghydymaith ieuanc—

Grow old along with me
The best is yet to be,
The last of life for which the first was made.

Buom gryn ysbaid yn yr awyrgylch yma, awyrgylch llwythog o atgofion am hen gyfeillion, a rhai ohonynt yn fwy na chyfeillion, na allaf eu henwi heb golli deigryn o hiraeth ar eu hôl, ond ar y cyfan teimlwn—

'Tis better to have loved and lost
Than never to have loved at all.

Mewn man neilltuol ar y daith fe'm teimlwn fy hun yn cael fy nyrchafu o awyrgylch yr hen atgofion. Yr oedd y fro yn awr yn fwy newydd, a rhaid oedd holi enwau'r tai a'r tiroedd a'r preswylwyr. Ymddangosai'r wlad yn hyfryd dan haul Gorffennaf. Clywn fy nghydymaith yn cyfarch rhai o'r fforddolion wrth eu henwau, a hwythau yn talu'r un deyrnged yn ôl, a minnau'n perthyn i'r oes gynt.

Un o fanteision mynd am dro fel hyn, parhaed y tro ddiwrnod neu wythnos, yw fod y golygfeydd yn newid bron bob awr. Daw golygfeydd newyddion i ddenu'r sylw a bywiogi'r ysbryd yn barhaus. Eir ymlaen trwy olygfeydd hen a diweddar, ac weithiau deuir at hen furddun neu glogwyn a egyr faes eang i fyfyrdod. Pan fyddys ar wyliau, neu'n mynd am dro, rhaid yw bod yn barod i dderbyn yr argraffiadau a gynigir ar y pryd, a gwneuthur y gorau ohonynt. O fynd fel hyn "deuthum", meddai Bunyan, i "fan lle'r oedd ffau, ac yno y gorweddais ac y cysgais, ac y breuddwydiais", a gallai ychwanegu, "a'm calon oedd yn effro". Ac fel yntau deuthum innau i fan neilltuedig. Yno yr oedd aber fechan. I'r Dwyrain a'r De ymgodai rhes o fryniau, ac yn y gongl rhyngddynt ar wastadedd coediog, a hwnnw yn ymestyn ymhell i'r Gorllewin, yr oedd hen furddun, a'r hen furddun hwnnw oedd mynachlog Ystrad Fflur. Môr dawel a neilltuedig oedd y lle! Y mae'r hen fynachlog wedi ysgrifennu ei henw yn ddwfn ar y fro o amgylch. Trysorir ei