Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwyr y noson honno yr oedd yn hollol newydd. Yn y pellter yr oedd cylch o fryniau yn amgylchu'r holl fro gyda'r eithriad o un bwlch. A thrwy'r bwlch hwnnw gwelwn fynyddoedd yr Eifl ar y gorwel, yr Eryri, "a'r Wyddfa gyrhaeddfawr". Ac wrth edrych ar yr olygfa trodd fy meddwl i fyfyrio ar fel mae'r mynyddoedd a'r bryniau a'r dyffrynnoedd yn dylanwadu ar y cymeriad cenedlaethol, a'r unigol o ran hynny. O'r Gogledd a chymdogaeth yr Wyddfa y caed y diwygwyr a "droes agoriadau drws y Gwaredwr", ac o'r Deau y caed y deffrowyr a wasgarodd y peraroglau, fel na raid i'r De genfigennu wrth y Gogledd, na'r Gogledd wrth y De, mwy nag "Effraim wrth Juda, a Juda wrth Effraim". Rhaid oedd wrth y ddau—"Deffro di, ogleddwynt, a thyred ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd fel y gwasgarer ei pheraroglau hi"; "ac felly y daw'r Anwylyd i'w ardd i fwyta ei ffrwyth peraidd ei hun".

Fe aeth yr olygfa hon heibio, ac yr oeddwn mewn awyrgylch arall. Rhodiwn yr hen lwybrau a rodiais ganwaith o'r blaen. Ychydig oedd y gwahaniaeth ynddynt, rhy ychydig bron i dynnu sylw. Gwelais fy hun unwaith eto â llyfr neu ddau dan fy nghesail, a gwelwn yr hen lwyni yr arferwn eistedd dan eu cysgod. Dyma'r hen dŷ y'm ganed ynddo, a'r ddau arall y'm magwyd ynddynt heb ond ychydig iawn o gyfnewidiad i'r hyn oeddynt gynt. Euthum trwy'r cyntaf a'r trydydd, a thrwy eu gerddi, a hen atgofion yn ymwthio ar draws ei gilydd trwy'r cof a'r meddwl. Yr oeddynt hwy bron yr un fath, ond fod eu hen breswylwyr wedi hen ymado.

Teithiwn trwy'r fro yng nghwmni efrydydd ieuanc. Gymaint y gwahaniaeth oedd rhyngom! Yr oedd fy nghlustiau i yn fyw i'r awel-donnau a gludai atgofion o'r amser gynt ac yntau â'i glustiau yn agored i'r presennol. Gwelwn i y rhieni yn y plant, a nodweddion y teulu yn blodeuo mewn ysbrigyn ieuanc. Adnabyddwn i'r plant wrth eu rhieni. Mor rhyfedd a hyfryd oedd edrych ar yr hen foncyff trwy gangau'r olewydden! Er prydferthed oedd y cangau irion a thyner, ar yr hen foncyff yr edrychwn i, a'r cangau irion a thyner a dynnai sylw a serch fy nghydymaith. Na, nid oedd fawr o orffennol i'w hanes ef. Adwaenai ef y rhieni wrth y plant, a minnau'r plant wrth eu rhieni, a chyd-deithiem fel hynny'n hapus gyda'n gilydd: ef yn derbyn cyfarchiad hwn