RHAGAIR
Os ewch ar hyd y ffordd fawr o Gaersws i'r Drenewydd yn yr haf, ymhen ychydig ar ôl gadael y "Filltir Hir" gwelwch ar y chwith, wedi i'r ffordd droi dros bont y trên, dŵr eglwys fechan. Y mae'n debyg y gwelwch ŵr lluniaidd ac urddasol yn dod allan o'r ardd sydd ar ymyl y ffordd, ac yn cau'r llidiart. Gwelwch wrth ei wisg mai clerigwr ydyw, ond ni thybiech ei fod yn un o hogiau'r pedwar ugain. Cyn iddo gyrraedd llidiart bach y rheithordy y mae'n debyg y byddwch wedi ei ddal, yna fe dry gan gyfarch gwell i chwi. Os byddwch chwi mewn hwyl cael sgwrs fe ddywed wrthych cyn bo hir eich bod yn cerdded yr hen ffordd Rufeinig o Uriconium i Gaersws, ac efallai y sonia hefyd am y carcharorion rhyfel o'r Eidal a fu'n cerdded yr un ffordd heb wybod bod eu hynafiaid wedi ei cherdded fel concwerwyr. O dipyn i beth ewch i siarad am eich plwyf eich hun, a chewch fod y person yn gwybod llawer amdano, ei hynafiaethau a'i gymeriadau. Os Cardi ydych, bydd yn amser te cyn gorffen y sgwrs, ac yna cewch wahoddiad i mewn trwy'r llidiart bach. Braint fawr a fydd honno, oherwydd byddwch yn cael pryd o de gyda'r Parchedig John Davies (Isfryn), rheithor Penstrowed, deon gwlad Arwystli, a chanon Bangor.
Gŵr o sir Aberteifi yw Isfryn, o ardal Lledrod, lle y mae hen atgofion a hen draddodiadau yn byw yn hir. Ysgrifennodd ei frawd, David Davies (Lledrod), lawer o storïau a choelion y fro i'r "Cymru Coch"; cafodd hwy o enau hen bobl yr ardal; a chyhoeddwyd hwy wedi hynny yn llyfryn, "Ystraeon y Gwyll". Cofia Isfryn siarad â hen wraig a gofiai Ieuan Brydydd Hir yn mynd drwy fuarth Ffos-y-bleiddiaid i gyfeiriad ysgol Ystrad Meurig. Y mae'n rhaid dod â'r ysgol hon i mewn wrth sôn am Isfryn. Nid yw fyth yn blino ar sôn am yr hen ysgol, ei gyd-efrydwyr, a'r hen brifathro enwog, John Jones. Diwylliant ei ardal a roddes i Isfryn ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a thraddodiadau Cymru; ysgol Ystrad Meurig a roddes iddo'r diddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg a'r iaith Ladin. Gwelir y diddordebau hyn yn ei ysgrifau, a daw'r cwbl allan yn hollol ddirodres. Rai blynyddoedd yn ôl darlledodd ran o'i atgofion, o Fangor. Gyferbyn ag ef ar yr un bwrdd, yn tynnu'r atgofion allan, yr oeddwn i, a'm teulu o un ochr o ardal Lledrod; yn cyhoeddi, yr oedd Nan Davies, a'i theulu