Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hithau o'r un ardal ; ac ar y ffordd adref, cyn gadael Bangor, dyna daro ar Ambrose Bebb yn dod o un o bwyllgorau'r Cyngor Tref, a mynd i mewn i'w achau yntau, o'r un ardal eto. Cyn gadael Bangor teimlai'r pedwar Cardi eu bod yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd.

Bu Isfryn yn gwasanaethu mewn llawer ardal, ac oherwydd bod ei wreiddiau yn niwylliant a hanes Cymru medrodd fwrw gwreiddiau ym mhob lle ac ymddiddori yn ei hanes. Cyn gynted ag y daeth i Benstrowed dechreuodd chwilio i hanes y plwyf hwnnw,—canlyniad hynny yw ei ysgrif ar "Ellis Wynne a Glan Hafren" yn y gyfrol hon. Ac eithrio ardal ei febyd efallai mai'r ardal y sonia fwyaf amdani yw ardal Llanrwst. Yr oedd yno doreth o hanes, cymeriadau fel Elis o'r Nant a Gwilym Cowlyd, a defodau fel Arwest Llyn Geirionydd. Teithiodd lawer ar hyd y wlad o dro i dro, a'i wybodaeth o hanes gwahanol ardaloedd yn gwneud y teithio hwnnw yn fyw iawn. Bu'n fawr ei barch ym mhob lle, oherwydd y mae'n medru cymdeithasu â gwreng a bonheddig, â'r hen a'r ieuanc, yn medru cydlawenhau gyda'r rhai sydd yn llawenychu a chydymdeimlo â'r rhai sydd yn galaru.

Yn eu tro daeth i fywoliaeth Penstrowed rai o wŷr enwog yr Eglwys yng Nghymru, i dreulio'u hwyrddydd yn nhawelwch glannau Hafren; a chewch lythrennau cyntaf enwau ambell un ar y ffawydd tal o amgylch y rheithordy. Bu W. L. Richards yma, y mae ei enw wrth Emyniadur yr Esgob Lloyd; D. Basil Jones; Henry Morris, nai Henry Richard; William Williams, caplan Esgob Bangor; a'r Canghellor Cadwgan Pryce. Y mae gan Isfryn rywbeth i'w ddweud amdanynt oll, ac y mae yntau yn deilwng o'r llinach. Bu'n olygydd "Yr Haul" am dros bymtheng mlynedd, ac yr oedd ar is-bwyllgor geiriau "Emynau'r Eglwys". Arferai Senedd Rhufain nodi ei chymeradwyaeth o rywun a roddasai wasanaeth arbennig drwy ddatgan, mewn penderfyniad swyddogol, ei fod wedi haeddu diolch ei wlad. Hwnnw a fydd fy ngair olaf am Isfryn,—De re publica bene meritus est. Gwn y bydd yn falch fy mod wedi defnyddio'r frawddeg Ladin. Gwn hefyd y dywed gyda chwerthiniad bach, "Dydw i ddim yn haeddu hwnna chwaith". Ond myfi sydd i benderfynu beth fydd yn y rhagair.

T. HUGHES JONES.