Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD O ATGOFION

EISTEDDWN fin nos wrth y tân heb olwg am neb i ddod i dorri ar fy heddwch am y gweddill o'r hwyrnos. Yr ydoedd yn rhy olau i oleuo'r lamp ac yn rhy dywyll i ddarllen, ac wrth ryw hanner breuddwydio fel hyn fe fynnai'r meddwl redeg yn ôl i'r gorffennol, a chofiais imi gael o hyd i hen gopi o nodion a gadwn flynyddoedd lawer yn ôl. Pan oeddwn yn mudo o un tŷ i'r llall darganfûm yr hen gopi yn awr yn llwyd gan henaint.

Rhedai rhai o'r nodion yn ôl i'm dyddiau ysgol, a deuthum ar draws rhai diddorol iawn. Gair neu enw oedd yn ddigon i ddwyn yr amgylchiadau yn fyw ger fy mron. Yr oedd yr hen gopi yn llawn o gyfeiriadau at hen arferion y wlad, y Cynhebryngau, y Priodasau, y Stafell a'r Neithior, Chwaraeon y plant, a lliaws o fân bethau eraill. Ond y peth a dynnodd fy sylw fwyaf y noson hon oedd y nodion a wneuthum wrth fynd o amgylch â'r papurau cyfrif yn y flwyddyn 1881. Y dosbarth a roddwyd i mi gan y Cofrestrydd oedd Rhos-y-wlad, ac o bob dosbarth hwn oedd y mwyaf a'r mwyaf blin i'w gerdded, gan ei fod yn bur gorsiog. Dyma'r adeg y cefais gip ar nodweddion a chymeriad gwlad o bobl.

Pobl garedig a chroesawus i'r eithaf oedd y trigolion y cefais i'r fraint o fynd o'u hamgylch, ond yn eithriadol o ddireidus ac yn hoff o chwarae triciau smala â'i gilydd, a'r cwbl mewn ysbryd llednais. Clywais lawer stori ddigri ganddynt, a thrysorais hwynt yn yr hen gopi y sy'n awr ger fy mron. Yr oedd ganddynt lysenwau i'w hadnabod wrthynt, a hynny oherwydd rhyw dro trwstan neu anaf ar y corff. Ac y mae hyn yn nodweddiadol o bob gwlad yr oedd yn Rhufain a Groeg, ac yng Nghymru'r Oesoedd Canol rai fel Iorwerth Drwyndwn a enwyd felly oherwydd rhyw anaf ar ei drwyn, a'r un modd Gwilym Bren, coes bren oedd ganddo yntau. Nid o un amarch y llysenwid hwynt, ond o ryw ysbryd direidus a chwareus. Dyma enghraifft fel y cafodd un ei enw. Arferai glymu un goes o dan ei ben-glin â chortyn. Pe clymasai'r ddwy, ni thynasai sylw neb. Ond clymu un goes a dynnodd sylw pawb, ac o hynny allan fe'i galwyd yn