Wil Glun Gorden. Pan glywodd Wil hyn fe glymodd y ddwy glun, ond yn rhy ddiweddar erbyn hyn, ac fe lynodd yr enw wrtho hyd ei fedd. Yr un modd y cafodd Wil Difedydd yr enw. Gwrthod â chymryd ei fedyddio trwy drochiad a wnaeth i gael yr enw. Pan glywodd yntau hyn, brysiodd i'w fedyddio, ond er y cyfan i gyd Wil Difedydd a fu yntau er wedi ei fedyddio.
Yr oedd yn Rhos-y-wlad atgo byw iawn am ddigwyddiadau ynglŷn â diwygiad Dafydd Morgan yn 1859. Un o'r tonnau rhyfeddaf a aeth dros y wlad ydoedd hwn, a Rhos-y-wlad a deimlodd ei ddylanwadau fwyaf, a naturiol i sôn amdano aros yn hir yn y rhanbarthau hynny. Dyn bychan ei gyraeddiadau meddyliol oedd Dafydd Morgan, ond yr oedd ganddo ryw ddylanwad aruthrol ar ei wrandawyr. Yr oedd yn fwy wrth holi profiadau na hyd yn oed yn y pulpud. Unwaith y darganfyddai fan gwan yng nghymeriad ymgeiswyr am aelodaeth fe ddiferai ei eiriau fel fitriol ar friwiau noeth. Daeth Benni Bach o dan ei fflangell un tro. Nid am ei fod yn fach o gorffolaeth y cafodd yr enw, nac ychwaith am ei fod yn gymeriad hoffus yn yr ardal, ond am mai Benni oedd ei dad a Benni ei daid, ac felly fe enwyd yr ŵyr yn Benni Bach. Ar ôl un oedfa wlithog fe arhosodd Benni ar ôl, ac fe'i galwyd i fainc yr edifeiriol. Gwelid llygaid Dafydd Morgan yn serennu o dan aeliau trymion. Dechreuodd holi Benni, ac yn fuan trawodd ei law ar fan gwan yn llurig cymeriad Benni, a diferodd geiriau llymach nag un cleddyf daufiniog. Ond fe drodd Benni arno'n ffyrnig. "Welwch chi, Dafi Morgan", meddai Benni, "os ydych chi a minnau am fod yn ffrindiau peidiwch â mynd un cam pellach yn y cyfeiriad yna". Ac nid aed hyd yn oed hanner cam ymhellach.
Rywbeth yn debyg y digwyddodd hi gyda Twm Johnyn. Un o gymeriadau rhyfeddaf y fro ydoedd hwn, ac y mae gennyf gof da amdano. Arferai wisgo het silc lwyd yn debyg i'r rhai a welid ar bennau porthmyn ceffylau mewn ffeiriau. Ymffrostiai Twm yn ei waedoliaeth, canys yr oedd o dras teulu Dolau Cothi. Johns oedd y teulu hwnnw, a Johns oedd Twm, ond ei fod ef wedi mynd yn Johnyn. Un tro arhosodd yntau ar ôl yn un o'r oedfaon. A galwyd ef at fainc y pechaduriaid. Cynnil iawn oedd yr holi ar Twm, a'r dyb gyffredin oedd bod ar yr holwr dipyn o ofn yr holedig. Fe wyddai'r