Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

holwr am wendid Twm, a'r gwendid ar y pryd oedd bod Twm a Gwenno yn byw ar wahân, a dywedai'r holwr nad oedd yn 'bosibl ei dderbyn yn aelod heb iddo'n gyntaf gymodi â Gwenno, a'r ateb parod oedd bod ganddo dri rheswm dros beidio â gwneud hynny, ac fe adroddodd ei resymau ; ond gan nad oeddynt yn ddigon yng ngolwg yr holwr, cydiodd Johnyn yn ei het ac allan ag ef, gan ddymuno nos da i'r frawdoliaeth.

O deithio o dŷ i dŷ ar draws corsydd a mawnogydd deuthum at fwthyn to gwellt a breswylid gan un o'r enw Deio Twrc. Dyn un llygad oedd ef, a chlwt glas yn orchudd ar y llall. Curais wrth y drws a chlywais lais fel taran yn gorchymyn imi fynd i mewn a pheidio â churo fel hynny wrth ei ddrws ef. Ufuddheais i'r alwad, a'r gorchymyn nesaf oedd imi eistedd i lawr ac adrodd fy neges. Yr wythnos drachefn gelwais wedyn i gasglu'r papur, a bu raid imi ei lanw fel y gallai Deio weld pa fath ysgrifennwr oeddwn. Cefais dipyn o waith i egluro termau'r gwahanol golofnau. Pan ddaethom at golofn yr idiots a'r imbeciles, ac egluro mai dynion heb fod yn gall a olygid, awgrymais adael hwnnw heb ei lenwi. Ond ni fynnai Deio hynny rhag iddynt yn Llundain, chwedl yntau, dynnu camgasgliadau oddi wrth y distawrwydd. Ei awgrym ef oedd imi roddi i lawr yn Saesneg mai dyn cryf ei feddwl ac iach ei galon ydoedd. "A man of strong mind with sound heart". Yn fy ffwdan gadewais yr 'e' allan o'r heart, ac felly yr arhosodd pethau.

Yr oedd croeso mawr yn f'aros yn y tŷ nesaf yr euthum iddo, a hynny am y rheswm, yn bennaf, imi fod yn yr un ysgol â'u mab, a'u hunig blentyn, yn awr yn ei fedd. Ifan a Mali'r Cnwc oeddynt hwy. Anaml y gwelais i ofid mwy na'u gofid hwy. Bachgen gobeithiol iawn ydoedd eu mab, a dim ond newydd ddechrau pregethu gyda'r Methodistiaid. Ef oedd eu gobaith a gwrthrych eu serch. O'u gweld mor alarus a hiraethlon dywedais ei fod yn bosibl tramgwyddo Rhagluniaeth ddoeth y Nef â gormod o alar. "Odi, odi, y machgen i", oedd yr ateb, "a gobeithio y cedwir ni rhag hynny, beth bynnag".

Y tŷ nesaf imi alw ynddo oedd tŷ y Dr. Rees. Curais wrth y drws, a chlywn lais soniarus y Doctor yn fy ngwahodd i mewn. Agorais y drws, a chroesais y trothwy i weld y Doctor yn