Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eistedd mewn cadair freichiau ger y tân, cap du am ei ben moel, a siaced felfed amdano, a'r wig ar hoel uwchlaw'r pentan i'w chadw'n gynnes pan ddeuai galw amdani. Gwyddwn y caffwn fy holi gan y Doctor, ac ni'm siomwyd chwaith. Ar ôl holi a stilio fel hyn am beth amser estynnodd y Doctor ei law i ddrôr y cwpwrdd, a dangosodd imi ddiploma y D.D. Addefodd y Doctor mai America oedd y wlad gyntaf i'w ddarganfod ef a chydnabod ei deilyngdod. Erbyn hyn yr oeddwn wedi ennill digon o nerth i ofyn un cwestiwn. Aethai si ar led trwy'r wlad iddo ef dorri allan o'r seiad William Richards am iddo brynu ar slei flwch o fatsis Lusiffer yn Aberystwyth. Y tramgwydd oedd prynu blwch ac enw Lusiffer arno. Na, yr oedd y Doctor yn bendant nad oedd y rhithyn lleiaf o wirionedd yn y stori. Da yw gennyf wneud hyn yn hysbys o barch i'r ddau.

Gadewais y Doctor a chyfeiriais fy ngherddediad i'r Ficerdy. A chan ei bod yn dechrau hwyrhau, a'r ffordd ymhell imi fynd adref, cymhellwyd fi i aros yno hyd drannoeth, yr hyn a wneuthum gyda diolch, canys yr oeddwn erbyn hyn wedi llwyr flino. Cawn gysgu yn yr un gwely ag y cysgodd Archddiacon ynddo y noson gynt. Gwelais fod y teulu caredig am dywallt pob croeso ar fy mhen. Ar ôl swper cafwyd ymgom lon am ddigwyddiadau'r dyddiau hynny, ac fe adroddais lawer digwyddiad digrif. Yn dâl am hyn adroddodd y ficer y stori ganlynol am yr Archddiacon a ddigwyddasai hyd yn oed y bore hwnnw.

Pan gododd a dyfod i'r ystafell fwyd, a neb yn yr ystafell ar y pryd ond Johnny bach, o gwmpas pump oed, ac yntau, trodd yr Archddiacon i roi ei sgidiau am ei draed a botymu ei socasau, a Johnny yn edrych arno gyda syndod, ac nid rhyfedd, canys ni welsai neb â socasau o'r blaen. O'i weld yn llygadrythu felly, dywedodd yr Archddiacon wrth yr hogyn bach—"Nid oes gan dy dad di, 'y ngwas i, socasau fel hyn". "Nac oes", meddai Johnny, "ond y mae gen i rai".

Trawodd cloc un ar ddeg, a gwadnwyd hi i fyny i'r ucheldiroedd.