II
YR HEN LWYBRAU
FY mwriad oedd rhoddi un diwrnod yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, ond wedi dechrau cael blas ar yr Eisteddfod, a chyfarfod â hen gyfeillion, trodd y diwrnod yn ddau, a chefais holl gyfarfodydd yr Ŵyl, ond un, o fore glas hyd hwyr. Gallaswn draethu llawer ar y cyfarfyddiadau hapus a wneuthum ddau ddiwrnod yr Eisteddfod, a'r mwynhad a gefais yng nghwmni cyfeillion, a'r modd y deuthum i adnabod hen gyfeillion yn bersonol am y tro cyntaf. Eisteddais drwy gyngerdd y noson gyntaf yn ymyl cyfaill mynwesol nad adwaenwn yn ôl y cnawd. Gohebwyd llawer â'n gilydd, o dro i dro, heb erioed gyfarfod, ac yno yr oeddem yn ymyl ein gilydd-mor agos ac eto mor bell. Fore drannoeth fflachiodd yr adnabyddiaeth, a 'wiw imi mwyach godi dim ar y llen.
O'r Ŵyl ymaith â mi i hen ardal Ystrad Meurig, ac yn awr nid oedd gennyf ond un diwrnod, am yr haf hwnnw beth bynnag, i dreulio yn yr hen gymdogaeth. Y mae llawer ffordd i dreulio diwrnod hapus ym mro maboed, ond y ffordd a fabwysiedais y tro hwn oedd myned i ben Trysgol-y-ffos, fel y gelwir bryncyn bychan yn yr ardal. Saif y Drysgol yn y canol rhwng tri phentref a ffurfia, megis, dair troed trybedd, Ystrad Meurig, Swydd-ffynnon, a Thyn-y-graig.
Cerddais i ben y Drysgol, ac eisteddais i lawr yn y man uchaf arni. Yr oedd y diwrnod yn bopeth y gellid ei ddymuno; yn wir, yn fil amgenach na dim a fedrai dyn ddyfeisio. Yr oedd natur yn hyfryd, yr hin yn dyner, a charped o fwsog odanaf, a'r lle yn fyw gan sŵn y gwenyn yn hedfan o flodeuyn i flodeuyn, ac ambell iâr fach yr haf ac adanedd amryliw yn dyfod heibio, a hynny mor agos, nes peri i mi symud weithiau rhag iddi daro ei hadanedd ynof, a'u llychwino yn y trawiad. Parhâi un i grwydro o'm cwmpas am gryn amser, a hynny, feddyliwn i, yn groesawgar iawn, eithr wedi canfod nad oedd fawr bleser i'w gael yn fy nghwmni, pwysodd ar ei haden ac ymaith â hi. Ac weithian oddigerth sŵn y wenynen, a mwm rhyw chwilen afrosgo yn symud, nid