Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd dim i dorri ar y distawrwydd. Edrychais o gwmpas, ac nid wyf yn meddwl y ceir golygfa fwy arddunol yng Nghymru oll. Amgylchid y fro â rhes o fryniau lled uchel ar ffurf cylch, a'r Drysgol yn y canol. I gyfeiriad Aberystwyth yn unig yr oedd bwlch a thrwy'r bwlch hwnnw gwelwn gip ar y môr, a thrumiau mynyddoedd yr Eifl yn Sir Gaernarfon. Newidiai'r bryniau eu gwedd yn fynych. Un funud ymddangosent yn bygddu, a'r funud nesaf neidiai'r porffor a'r fermiliwn i'r golwg, a cherddid hwy gan gysgodion gwawl-gymylau fel gan adar cyhyrog yn ymlid y naill a'r llall. O'm blaen gorweddai'r Gors Goch, a Theifi araf yn dolennu trwyddi gan hepian a chysgu yn ei phyllau, a sylwais ar yr hen byllau y bûm—yn un o haid o fechgyn—yn ymdrochi lawer gwaith ynddynt, a deuai i'm cof unwaith eto fel y rhedem ar ei glan i'n sychu ein hunain yn yr awelon iach, canys nid oedd eisiau tywel yr adeg honno, ac yna i'r hen Athrofa yn Ystrad Meurig at y Groeg a'r Lladin, cyn iached â'r gneuen.

Gwelwn y ffyrdd a'r llwybrau, ac mewn dychymyg yr ysgolheigion yn cyniwair; a phob un â'i becyn llyfrau dan ei gesail, i Athen Cymru Fu. Adwaenwn bob llwybr a phob ffordd, a gwyddwn am bob tro ynddynt. Sawl gwaith y cerddais ac y rhodiais hwynt! Gwelwn y llwyni y bûm yn llechu yn eu cysgod ar gawod o law, neu rhag tesni'r haul, ac weithiau i ddisgwyl am ryw gydymaith y clywn ei chwibaniad iach yn dyfod oddi draw. Ac wedi'r cyfarfod, O'r llawenydd Yn union danaf gwelwn Ffos-y-bleiddiaid. Hen gartref Llwydiaid Mabws, neu'r May Bush, oedd ef. Ond ba waeth gennyf fi yn awr pwy a fu yn preswylio ynddo. Rhedai fy meddwl yn ôl at yr hen gyfoedion, a fu yno yn ysgol Ystrad Meurig. A dyma'r hen lwybr fel bwcled ar droed y Drysgol a gerddid yn ddyddiol i'r ysgol ac yn ôl. Nid yw mor goch ag y bu, eithr yma y mae yn ddigon gweledig a'r camfeydd y neidid drostynt mor heinyf. Deuent o bob cyfeiriad. O Bontrhydfendigaid a Ffair Rhos, a'r Dderw, lle nad oedd, meddai Edward Richard,

Ond blew garw'n blaguro.

O Dyn-y-graig a Swydd-ffynnon, a draw o gyfeiriad Ysbyty Ystwyth, a chyd-gyfarfyddent yn dyrfa fawr yn hen ysgol