llechu yng nghysgod perth, a rhedeg o lwyn i lwyn nes cyrraedd adref. Ac am gob fawr, ni welid angen amdani y dwthwn hwnnw, canys cedwid tymheredd y corff trwy redeg. Ond dacw ddau yn dyfod gan gyd-gerdded â'u llyfrau yn agored yn eu llaw. Heb wneud ei wers y mae un, ac yn ceisio cynorthwyo ei gyfaill i fynd dros y Latin neu Greek Prose cyn beiddio mynd i bresenoldeb yr athro. Dilynir hwy gan ddau arall, llai ac iau. Decleinio yr enwau y maent hwy, a chonjugatio y berfau. Sonia'r proffwyd am "sancteiddrwydd ar ffrwynau y meirch", ac ni ryfeddwn innau fod coed y maes ar y ffordd hon yn sisial-ganu Latin a Greek. Ducpwyd torrwr-cerrig y ffordd i lys barn rywdro yr amser hwnnw i dystiolaethu i'w ysgrifen, a amheuid. Rhoddwyd ef ar ei lw, a gofynnwyd iddo gan y gŵr â'r wig, chwedl yntau, a fedrai ef ysgrifennu. Dyrchafodd yntau ei lais gan bwyso ar ei ddwy ffon, ac yn crynu i'w lwynau, nid o ofn ond o henaint, dechreuodd adrodd—
Arma virumque cano Trojae qui primus ab oris.
Cofiaf glywed yr hen ŵr yn adrodd y tro hwn gyda chryn ddireidi yng nghil ei lygad.
Ond rhaid mynd ymlaen. A dyma ben llwybr y Ffos yn arllwys ei ysgolheigion. Gelwid hwy yn ysgolheigion y Ffos i'w gwahaniaethu oddi wrth ysgolheigion lleoedd eraill: rhifent tua hanner dwsin. Ac yn is i lawr—ar riw Castell—ymunir â hwy gan ysgolheigion Tyn-y-coed, a chyn pen nemor o funudau byddai mynwent Ystrad Meurig yn orlawn o efrydwyr. Dacw'r Prifathro a'r athrawon cynorthwyol yn eu gynau a'u capiau colegol yn dyfod i fyny o Fronmeurig. Tinc neu ddau ar y gloch, a dyna'r fynwent yn wag, a'r ysgoldy yn llawn. Ychydig is i lawr, a dyma orsaf Strata Florida, a'r trên yn chwythu colofnau o fwg a hithau yn bur llaith a mwll, ac yn y tywyllwch rhannol hwn neidiais i mewn a diflannu.