Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fath bryd. Nid am nad oedd yn hoff o facwn a choffi, ond am fod y ddau yn rhy debyg i liw wyneb a dwylo'r coginiwr.

Cyrhaeddwyd lawnt y llyn yn brydlon, ac ar awr anterth yr oedd y Cofiadur wedi gosod Ceidwad y Meini a Gwŷr y Gwyngyll yn eu safleoedd priodol, ac yng ngŵydd tyrfa bur fawr arweiniodd Gwilym yr Archdderwydd am y dydd i'w le—a'r Archdderwydd y dwthwn hwnnw oedd hynafgwr urddasol o dref Llanrwst. Erbyn deuddeg o'r gloch yr oedd popeth yn barod, a'r gair olaf wedi ei ddywedyd gan Elis. I'r funud am ddeuddeg dyma orchymyn o'r orsedd ar i bawb noethi eu pennau, er ei bod yn annioddefol o boeth. Rhaid oedd ufuddhau canys beth am y canlyniadau. Yr oedd cnwd o wallt ar ben Gwilym ac Elis, ond am yr Archdderwydd, druan ohono, yr oedd ei wallt ac yntau wedi ymadael â'i gilydd ers ystalm o amser. Gwnaed ymdrech i gyfryngu ar ran yr Archdderwydd, iddo gael rhywbeth i guddio ei gorun moel, ond yr oedd difrifolwch Gwilym a direidi Elis yn ormod o wrthglawdd i wthio'r cyfryngiad trwodd. Ofnem am y canlyniadau pan glywyd gorchymyn arall yn dyfod o'r orsedd ar i bawb o fewn y cylch roddi eu llaw ddeau ar eu morddwyd aswy. I gyflawni hyn rhaid oedd ystumio'r corff, a'i gadw yn yr ystum honno am ysbaid hir. Gofynnwyd am heddwch ar lafn noeth y cledd, a chafwyd taranau ohono. Pan weiniwyd y cledd drachefn yr oedd wedi un o'r gloch. Ar ddiwedd y gweithrediadau, da oedd gan lawer ohonom dynnu at lan y llyn i oeri tipyn ar ein pennau yn ei ddyfroedd grisialaidd.

Drannoeth cyfarfûm â phriod yr Archdderwydd, a'n condemniai yn ddigon haeddiannol am gadw hynafgwr moel yng ngwres yr haul am gymaint o amser. Gwaeddai am heddwch yn ei gwsg, ac os na châi ateb boddhaol pwniai ei gymar nes ei bod yn ddu ac yn las.

Ymhen rhyw ddwy neu dair blynedd wedyn yr oeddwn yn gymydog i Elis yng ngwlad y gog, chwedl yr ardalwyr am Ddolwyddelan. Treuliais lawer o amser yn ei gwmni tra oeddwn yma. Arferwn ei weled bron yn ddyddiol, ac nid oedd trai ar ei arabedd a'i ddireidi. Y trosedd mwyaf y gellid ei gyflawni yn ei erbyn oedd holi prisiau llyfrau yn ei siop heb brynu yr un. Un tro yr oedd Proffeswr o Rydychen ar ymweliad â'r lle, aeth i siop Elis, a rhedai ei lygaid dros y