Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

silffoedd llyfrau, gan holi pris ambell un. Treuliodd dipyn o amser felly, ac Elis o'r tu ôl i'r cownter yn gwichian ei atebion. O'r diwedd trodd y Proffeswr i ymddiddan am yr ardal. Ac ymysg pethau eraill dywedodd mai'r hyn a'i trawodd ef fwyaf oedd tlodi'r ardal o foneddwyr. "Welais i ddim boneddwr yma o gwbl", meddai'r gŵr dieithr—"I don't know so much about that", oedd yr atebiad. "Fodd bynnag", medd y Proffeswr, "ni welais i yr un er pan wyf yn y lle". "Nid wyf innau", meddai Elis, "yn gweled boneddwr yn awr", a'r funud honno yr oedd ei law yng nghoes y brws, a'r Proffeswr yn ei goleuo hi ar draws y ddôl am ei einioes. Hyfrydwch digymysg oedd clywed Elis yn adrodd yr ystori hon, a gwnâi hynny pan oedd mewn hwyl ag eneiniad, gan roddi rhyw ychwanegiad bychan cryno ati. Yr oedd yn hollol ddirodres, ac mor olau â'r dydd.

Cofiaf ddathliad Diamond Jubilee y Frenhines Victoria. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn o'r trigolion yn trefnu gogyfer â rhoddi te i'r plant a'r oedrannus, ac Elis yn ysgrifennydd. Cyfododd y cwestiwn sut i dreulio'r noson honno mewn undeb â'n gilydd. Awgrymai un y priodoldeb o gynnal Cwrdd Gweddi Undebol. Ar amrantiad dyma Elis ar ei draed ac yn dywedyd "Taw yr ynfyd (ond gair mwy sathredig a ddefnyddiodd ar y pryd), pwy ddaw i wrando ar dy weddi di?--ddo' i ddim". Rhoddodd hyn derfyn ar y Cwrdd Gweddi. Nid taflu unrhyw ddiystyrwch ar Gwrdd Gweddi oedd amcan Elis, oherwydd nid oedd neb yn fwy parchus o bethau cysegredig nag ef yn eu lle a'u hamser priodol.

"Fachgen", meddai un diwrnod, "y mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi gwrtio hwn a hwn am driswllt. Ond yr wyf yn myned i roddi un cynnig iddo". Gwyddwn yn dda nad oedd dim ymhellach o feddwl Elis na chwrtio, na dim ymhellach o feddwl y dyledwr na chael ei gwrtio. Ymhen ychydig ddyddiau wedyn gwelwn Elis yn wên o glust i glust wedi cael ei driswllt, ac englyn i'r fargen, a phleser oedd clywed Elis yn adrodd yr englyn, yr hyn a wnâi ac eithrio'r drydedd linell—

Rhaid hwylio i'r brawd Elis—ei driswllt,
Neu drysa'i ben dibris ;
Rhaid rhoi i rog ei grogbris
Neu fe brawf yn fwy o bris.