Rhag ofn i drydedd llinell yr englyn direidus hwn adael argraff annheg ar goffadwriaeth Elis, dywedaf yma na fu dim ymhellach o'i feddwl na rogni, na dim ymhellach o feddwl yr awdwr na rogni—englyn hollol ddireidus ydyw. I'r gorlan Fethodistaidd yr arferai Elis fyned ar y Sul, ond pan glywai fod awdur yr englyn direidus uchod i bregethu yn yr Eglwys hwyliai ei hun yn barod i ddyfod yno. Gyda dyfodiad y trên i'r orsaf, gellid ei weled yn dyfod ar bwys ei ffon i'n cyfarfod. Ac ar ganiad y gloch cyfeiriai tua'r Eglwys yng nghwmni y diweddar Mr. Davies, Penlan, un o'r wardeniaid. Ac ni fu dau erioed yn mwynhau'r gwasanaeth a'r genadwri yn well. Rhaid oedd myned gydag ef un diwrnod i Benmachno a'r Cwm heibio i ffriddoedd Tŷ Mawr, yr Wybrnant a Than-y-clogwyn a heibio i'r meini â'r croesau, ar hyd hen lwybr y ceffyl pwn, a oedd mewn rhai mannau wedi hen ddiflannu. Dyma'r fro fynyddig y bu'r Esgob Morgan yn bugeilio defaid ei dad yng nghwmni'r hen fynach hwnnw, a osododd yn ei ddisgybl sylfeini ei ddyfodol, ac a'i gwnaeth ef yn brif gymwynaswr Cymru. Aethom heibio i graig a elwid yn bulpud yr Esgob Morgan, oddi wrth y traddodiad yr arferai bregethu ar y graig honno pan oedd ar ffo. Ie, dyma'r cerrig a'r croesau ynddynt yn llawn mwsogl, a hyn oedd yn arwydd i fam yr Esgob Morgan fod y wlad yn myned yn ddiweddi. Duwioldeb y fam a llafur yr hen fynach a roddodd ei gyfeiriad i'r Esgob Morgan. Cwymp mynachaeth yn Nyffryn Conwy a fu yn foddion anuniongyrchol i roddi'r Beibl yn yr iaith Gymraeg yn gyflawn a chyda'i gilydd. Ymlaen â ni hyd nes dyfod at ffos o ddwfr, ac arhoswyd i ystyried y sefyllfa. Gan fod Elis yn gloff o'i goes dde a wnâi K bob cam, cymerais fy siawns i neidio drosodd yn gyntaf gyda'r canlyniad i'm coes dde innau suddo yn y ffos hyd gymdogaeth y ben-glin. Tra fûm i yn ceisio sychu tipyn arni gwelwn Elis yn brasgamu â'i holl nerth. Gwaeddais arno i b'le yr oedd yn mynd. "I gwrdd â chwi yn Awstralia", meddai yntau yn ddigon direidus.
Yr oedd Elis a minnau ar bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn un o'r cyfarfodydd yr oedd dewis beirniaid. Croes i feddwl Elis yr âi pethau ymlaen, a gwelai yn ddigon amlwg y gwifrau, a methu dal a wnaeth, ac allan ag ef fel mellten, gan ysgwyd