Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei ddwrn yn wyneb rhyw weinidog a fynnai ormod o'i ffordd ei hun yn ôl tyb Elis. Wedi ailgyfarfod ag ef allan, a hithau yn bwrw glaw y Blaenau, a'r ffordd yn lleid-wlyb, "Yr oeddech braidd yn bigog heno", meddwn wrtho. "Fachgen", meddai yntau, "mi pilsiais i nhw", a chyda hyn chwarddodd nes y ffrwydrodd ei ddwy res o ddannedd gosod allan o'i enau ac i'r ffordd, a dyna lle yr oedd Elis yn eu casglu â'i law, a'u rhoddi ym mhoced ei drowsus. Adroddais yr ystori hon wrth yr un englynwr ag o'r blaen, ac yn ddiymdroi adroddodd yr englyn a ganlyn:—

Ai Elis welir isod—yn ei warth
Herwydd chwerthin gormod?
Yn y baw mae'n mynnu bod
I geisio'i ddannedd gosod.

Gellid ychwanegu llawer i'r cyfeiriad uchod, ond teimlaf fod hynyna yn ddigon o fynegiad o gymeriad ein gwrthrych.

Prif nodweddion ei gymeriad oedd:—

i. Direidi hyd at wamalwch. Yr oedd yn Gelt i'r gwraidd, a disgynnai o wehelyth yr Esgob Morgan, ac mewn canlyniad o un o'r llwythau Cymreig. Anodd oedd cael golwg ar ochr ddifrifol ei gymeriad.

ii. Meddai ar allu meddyliol cryf a chrebwyll buan, ac ysgrifennodd rai pethau a bery yn hir yn yr iaith. Y mae ei Nanws ach Robert yn rhagorol. Ychydig o ddisgyblaeth ar ei feddwl afreolus a fyddai wedi ei ddyrchafu yn uwch ym mysg llenorion ei wlad.

iii. Rhyddfrydwr ac Ymneilltuwr ydoedd. Oddi adnabyddiaeth bur fanwl ohono, nid wyf yn meddwl fod Rhyddfrydiaeth ac Ymneilltuaeth ei ddydd yn gydnaws â'i ysbryd aflonydd pe treiddid yn ddigon dwfn i'w fodolaeth i wneud ymchwiliad. Fel llawer un arall, Celt Ceidwadol ac Eglwysig oedd wedi myned ar grwydr, ac wedi colli'r ffordd i ddyfod yn ôl.

iv. Yr oedd yn ddyn caredig a chymwynasgar, parod i gydymdeimlo â'r gwan, a chynorthwyo'r rheidus.

v. Meddai ar ddynoliaeth gref, yn byrlymu o natur dda. Wedi'r helynt a'r direidi, y syrthio a'r sefyll:—

Y bedd oedd diwedd ei daith.