Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

syn a mud gan ddyfalu beth i'w wneud. Nesâi'r nos, a disgynnai’r eira yn blu mawrion, a'r ewinrhew ar fy mysedd. Heb wybod b'le i droi, na pheth i'w wneud, dyma John Richards, Ynys-y-bont, heibio, yn fachgen ifanc, glandeg yr olwg, a chadwyn oriawr a sêl ac allweddau yn hongian o boced fach ei drowsus, ac ef oedd fy athro yn yr Ysgol Sul. Daeth ataf, a dywedodd y cawn fynd adref yn ei gwmni ef, ac y byddai'n cychwyn ymhen rhyw ugain munud. Dilynais ef weithian o hirbell rhag colli golwg arno yn ei gyniweiriadau troed aden ar hyd yr heolydd.

Daeth yr ugain munud i ben, a chychwynnwyd, a'r dwyreinwynt yn chwythu'r plu gwlanog yn driphlith-draphlith, ac yma ac acw, nes o'r bron ein dallu weithiau, a'r gorniog loer yn welw a phrudd. Brasgamwyd heibio i'r orsaf ac ymlaen at Picadili, fel y gelwid bwthyn bychan to gwellt ar y llaw chwith rhwng y dref a Phonteinion. Cyn dyfod at y bont, gwelem ddyn yn dyfod allan o gysgod y gwrych yn fwy i'r ffordd. "Hen drempyn ydyw", meddai John, gan afael yn fy llaw a phwyso at fy ochr i. Daethpwyd at y dyn, a ofynnodd yn Saesneg faint o'r gloch oedd hi. "No watch", meddai John, er bod y gorniog loer yn datguddio cadwyn oriawr a sêl ac allweddau yn crogi o boced ei drowsus. "Have you a match?" oedd y cais nesaf, a "No match", oedd yr ateb, a'r tro hwn yn ddigon gwir. "I'll match you", meddai'r tramp, a chyda hyn dyna John fel ewig ofnus dros y bont a'r tramp ar ei ôl, a thrwst y pedair troed fel carlamiad march a ddisgrifir gan Fyrsil,—"Quadrupedentem putrem sonitu quatit singula campum", a bygythion a llwon y tramp yn rhwygo'r awyr ddistaw.

Y peth gorau i mi'n awr oedd rhoddi digon o bellter rhyngof a'r afon rhag i'r dyn yn ei gynddaredd fy nhaflu drosodd, a phrysurais ymlaen i glywed sŵn y tramp yn dychwelyd, ac yn y man yr oeddwn wyneb-yn-wyneb ag ef er fy mawr ddychryn ac ofn. Holodd fi'n awr a oedd gennyf oriawr, ac a oedd gennyf flwch matsis. Datododd wedyn fotymau fy nghôt i weld ai gwir fy atebion. Yr oedd chwant arno, meddai, fy narnio a rhoddi'r tipyn corff a feddwn yn fwyd i'r fall, neu 'nhaflu dros y bont i'r afon, neu 'nghicio i ganol yr wythnos nesaf, a chiliodd gam neu ddau'n ôl i roddi arddangosiad o'i fedr i wneuthur hynny. A dyna fu'r cyfle, a rhoddais fy