nhraed yn y tir gymaint ag a fedrwn, canys gwyddwn yn awr y dibynnai fy nhynged ar gyflymder fy nhraed, a chofiais a ddywedodd y Salmydd mewn rhyw gyfyngder cyffelyb—"Gosodaist fy nhraed fel traed ewigod", ac yr oeddwn gryn dipyn yn gyflymach fy nhroed y pryd hwnnw na heddiw. Fy ngobaith yn awr oedd cael y gât o'r ffordd fawr i'r llwybr yn agored, a chedwais olwg graff amdani, a'm hymlidydd wrth fy sodlau â sŵn ei anadlu yn fy nghlustiau.
Oedd, yr oedd y llidiart yn gilagored, canys trwyddo ef yr aethai fy hen athro ; ac yn awr yr oeddwn yn ddiogel a'r tramp wrth yr adwy yn hyrddio bygythion a llwon ar fy ôl nad oedd dim niwaid ynddynt mwy na halogi nos mor ddistaw a santaidd.
O'r diwedd goddiweddais fy amddiffynnydd a'm cydymaith, ac adroddais wrtho fy helynt a'r waredigaeth gyfyng a gefais—megis o "safn y llew", ac iddo ddywedyd y byddai gyda ni eto. Cyd-gerddasom yn ddistaw ymlaen, a'n meddyliau ynghlwm wrth y waredigaeth, nes dyfod ohonom dan Lwyngwinau. Ac yno gofynnodd John a oedd arnaf ofn mynd adref ar fy mhen fy hun gan fod arno awydd dychwelyd a thalu'r pwyth yn ôl i'r tramp, hyd yn oed pe costiai hynny ci fywyd iddo. Ar y gair clywem drwst cerddediad a barodd inni brysuro yn ein blaenau, ac ar frys dros y cwmins a'r bont ar Gamddwr, ac ar lawr cegin Ynys-y-bont yr arhoswyd gyntaf. Yno yr oedd Dafydd y Gwehydd a John Picin yn adrodd am eu hysgarmesau ym myd yr ysbrydion, Dafydd fel y clywodd ei ysbryd ef ei hun wrth y gwŷdd yn Nhancwarel, a John fel y dilynwyd ef gan ladi wen dan yr Hendre wrth ddyfod o Ysbyty Ystwyth.
Adroddodd John ein helynt yn fanwl, ac "oni bai am hwn", meddai, gan bwyntio ei fys ataf gyda rhyw gymaint o ddirmyg, "mi a wnawn â'r tramp fel y gwneuthum â'r wâdd honno a gleddais yn fyw pan oeddwn yn aredig y cae gwenith gaea; mi a'i claddwn yntau yn fyw yn y Gors Goch". Ac yr oedd am fynd yn ôl y funud honno i gyflawni ei fwriad. Rhedwyd i gloi'r drws rhag iddo fynd, a chuddio'r allwedd a bachu'r ffenestri. Perswadiwyd ef o'r diwedd i gymryd cwpanaid o de a ddofodd ei lid i fesur helaeth, a'r ddau ymwelydd yn pwffian colofnau o fwg i'r simnai. A'u barn hwy oedd mai ysbryd a welsom, ac nad oedd o un diben i ymladd