ag ysbryd, a chydsyniodd John â'r syniad, canys fe wyddai yntau mai rhwng y Nadolig a'r Calan y cyniweiriai'r ysbrydion.
Rhaid ydoedd i mi'n awr feddwl am fynd adref, ac wynebu croeso na wyddwn yn iawn ei natur, ond gwyddwn yn iawn fy haeddiant am dorri f'addewid i ddychwelyd gyda'r trên pump, a hi'n awr rhwng saith ac wyth o'r gloch, a hithau yn nyfnder gaeaf, a minnau ond o gwmpas deuddeg oed. Yn ffyddlon i'r diwedd fe gododd fy hen athro i fynd â mi adref, a bod o'm plaid pe bai angen. Ac felly yr aethpwyd nes cyrraedd ohonom y sticil sy'n croesi o dir Ynys-y-bont i dir Pen-y-bryn. Gwell, yn ôl meddwl fy hen athro, oedd i mi ei dringo'n gynta' rhag ofn i rywbeth ddyfod o'r tu ôl a'm cipio ymaith fel y cipiwyd y Bardd Cwsg.
Erbyn hyn yr oedd trwch o eira ar y ddaear, a chynfasau gwynion ohono ar y perthi a'r llwyni, a'r lloer yn welw a phrudd, a rhyw ddistawrwydd llethol ar fro a bryn. A ni'n nesu at y sticil, a mi a'm troed ar y ffon isaf iddi, clywem ochenaid fel ochenaid plentyn â'r pâs. Clustfeiniwyd, a chlywyd drachefn riddfan pruddglwyfus yn dyfod o'r berth ddrain, a'r peth cyntaf wedyn oedd clywed trwst rhedeg fy nghydymaith yn ôl, ac ni fûm innau funud yn hwy nag y gallwn heb ddilyn ei esampl. Cyraeddasom y tŷ cysurus y newydd gefnasem arno â dychryn ac ofn yn argraffedig ar ein gwedd, a'n calonnau yn curo fel tabyrddau a'n hanadl yn ein gyddfau. Adroddodd John yr hanes a'r ddau ymwelydd yn llygadrythu o ganol cymylau o fwg, a chredaf i'r ddau smocio ymaith flynyddoedd o'u hoes.
Rhaid ydoedd i mi fynd adref, canys gwyddwn fod yno bryder nid bychan amdanaf, a hwythau wedi fy sarsio i ddyfod yn ôl gyda'r trên pump, ac yr oedd hi'n awr o gwmpas naw o'r gloch.
Yr unig un a gynigiodd ei wasanaeth oedd William Richards, a phenderfynodd y ddau ymwelydd fanteisio ar ein cwmni i fynd adref, a chychwynnwyd i'r daith. Bachgen rhadlon a di-ofn oedd William, ac anghredadun pendant ym myd yr ysbrydion. Yr oeddem yn awr yn bedwar, a William Richards ar y blaen â phastwn celynen yn ei law. Cyrhaeddwyd sticil yr ysbryd; clustfeiniwyd, a chlywyd griddfan ac ochneidio'n debyg i ddafad â'r bendro.