Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyngor Dafydd a John oedd ffoi tra oedd cyfle. Ond nid un i'w ddychrynu ar chwarae bach oedd William, er bod ei gluniau yntau ar y pryd yn dechrau crynu a'i ddannedd yn clecian. Ond er gwaethaf y cwbl fe arhoes ei fwa ef yn gryf a'i fraich yn nerthol. Nesâwyd at y berth a'r ysbryd, a phob un mor agos ag y gallai i William, ac yntau fel craig mewn rhyferthwy. Yr oedd yr eira yn drwch ar y berth, a ninnau fel rhai wedi dyfod o fryniau ia y Gogledd. Erfyniai Dafydd a John ar William i beidio â rhyfygu, ond yn ei flaen yr aeth ef, a minnau a'm gafael yn ymyl ei gôt, ac yn cydio'n dynnach, dynnach, ynddi fel y nesaem, a John a Dafydd yn dilyn lwyr eu cefnau. Ac yno o ganol y berth syllai arnom ddau lygad tân, a'r funud nesaf clywem y ddau ddyn yn rhuthro dros y clawdd gyferbyn, a chŵn Pen-y-bryn yn cyfarth ar eu hôl, ac wrth gyfarthiad y cŵn y gwyddem eu cyfeiriad. Daliodd William, a minnau yn ei gysgod, i syllu ar y ddau lygad tân a gwrando ar y griddfannu. Ofnem fynd yn nes, ond ni fynnai William ffoi cyn datrys ohono'r dirgelwch. Amdanaf i, druan, ni wyddwn pa un ai ar fy mhen neu 'nhraed y safwn, na pha un ai gwaed neu chwys a redai ar hyd pob modfedd ohonof. Ciliodd William gam neu ddau'n ôl, a safodd a'i bastwn celynnen yn ei law, a chyfarchodd y gwrthrych a lochesai yn y llwyn â'r geiriau hyn—"Yr wyfi, William Richards, o Ynys-y-bont, yn enw Gog a Magog, yn dy dynghedu di, pwy bynnag neu beth bynnag ydwyt, dyn ai ysbryd, i ddyfod i lawr o'th lwyfan yn y llwyn a dangos dy hun, neu ar ôl cyfrif tri fe fydd i mi fwrw carreg i'r llwyn, ac efallai i'th ben, ac yn awr yr wyf yn mynd i ddechrau cyfrif". Arhosodd dipyn ar ôl hyn, a dechreuodd gyfrif-"Un, dau, tri. Ac yn awr amdani, a gwylia di dy hun", a thaflodd y garreg â'i holl nerth nes tasgu o'r eira yn gawod o ffluwch. Clywn rywbeth yn disgyn i ochr y clawdd, ac fel pe'n ysgwyd ei adenydd. Nesâwyd yn araf, ac yno yr oedd hen gwdihŵ wedi torri ei haden, nid gan ergyd y garreg, ond rywdro cyn hynny. Cododd William hi, a rhoes hi dan ei gesail, ac ymaith â ni tuag adref.

Mawr oedd y syndod o'n gweld adref mor gynnar, ond mwy oedd ein syndod ni o weld y ddau ffoadur—Dafydd a John—yn ysmygu o flaen tanllwyth o dân ar yr aelwyd, ac yn adrodd stori yr ysbryd, gan ychwanegu ati, ac yn dal i