Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddywedyd i William a minnau ffoi am ein hoedl i gyfeiriad y bont ar Gamddwr. Yr oeddynt hwy wedi gweld yr ysbryd â'u llygaid noethion, Dafydd wedi sylwi ar y ffwrneisi tân, a John ar ei glustiau, na welodd eu mwy erioed yn ei fywyd, ond ar bennau mulod Dafydd Jones, y Rest. "Wel", meddai William, "y mae'r ysbryd tu allan i'r drws y munud yma, ac mi a ddof ag ef i fewn yn awr i chwi ei weld". "Na, ymswynwch, William", meddai Mari Gam, a'i dau lygad cyn ddued â'r muchudd a gweill yr hosan yn clecian rhwng ei bysedd, ac yn codi un ohonynt i gosi y tu ôl i'w chlust. Fe wyddai hi trwy brofiad beth oedd bod mewn ymryson â macwyaid y nos ar rostiroedd diffaith ac anial heb ddim i'w chysgodi ond ei mantell. "Na", meddai drachefn, "ymswynwch, a pheidiwch â chellwair â galluoedd y tywyllwch". Erbyn hyn yr oedd Dafydd a John yn dirgrynu a gwelwi gan ofnau, ac yn barod i ffoi ar y cyfleustra cyntaf, ond yr oedd William rhyngddynt a'r drws.

Yr oeddwn i eisoes wedi darganfod arwyddion o anfoddogrwydd yn wynebau fy rhieni, a bu bron imi â syrthio yn gelain ar y llawr pan ofynasant imi edrych ar y cloc a bwyntiai ei fysedd at un ar ddeg. Ni ddywedwyd gair, ond yr oedd yr edrychiad yn ddigon, a minnau heb ddim ond hanner tafell o fara sinsir ac ychydig gnau i roddi'n aberth am fy nhrosedd. Gwelodd Mari Gam, coffa da am ei henw, ystyr yr arwyddion, a chynghorodd fy nhad a mam i fod yn ddiolchgar am fod y "bachgen bach" yn fyw ar ôl ymgiprys ohono â theulu'r fall, a thynnodd fi yn nes ati, ac aroglodd fy nillad. "Oes", meddai, "y mae arogl y gwyll arno, ac yr wyt tithau, William, â'th ddillad yn llawn o frwmstan y gwn yn dda amdano". Ar hyn rhedodd William i nôl yr hen aderyn, a dangosodd ef i bobl y tŷ, ond er ei weld ac edrych arno, daliai Dafydd a John a Mari Gam i gredu mai rhith oedd y gwdihw o ysbrydion y nos, a bod William mewn cynghrair â hwynt.