Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V

CWM HIR A CHEFN-Y-BEDD

UN o'm hamcanion yn mynd i Landrindod oedd ymweld ag Abaty Cwm Hir a Chefn-y-bedd. Cychwynnais yn weddol fore, a tharth a niwl yn gorchuddio bro a bryn, ac yr oeddem fel rhai yn ymlwybro trwy wlad hud a lledrith. Golwg ddigon diflas oedd ar bawb a phopeth a gwrddem neu a basiem nes cyrraedd ohonom Langurig a gweld Pumlumon fel am ymddiosg o'i wisg nos i gyfarch pelydrau bywhaol yr haul. O'r fan honno ymlaen daeth yr haul i chwarae mig rhwng y cymylau, ac ymlawenhâi pawb a phopeth yn ei wenau siriol. Yn awr yr oeddem yn nechrau dyffryn Gwy. Ymlaen â ni trwy Raeadr, a gamy-sgrifennir yn Rhayader, a Nant Mêl, nes cyrraedd ohonom Ben-y-bont ac yn fuan yr oeddem yng Nghwm Hir a saith milltir o deithio i'w gwr uchaf.

Y llwybrau gynt lle bu'r gân
Yw lleoedd y dylluan.

Yn cyd-redeg â'r ffordd a deithiem y mae'r afonig fechan Clywedog, yn murmur-ganu ar ei thaith, a dywedyd yn hyglyw i'r glust a glyw, "Môr, môr, i mi". Y mae afonydd eraill yng Nghymru, o'r hyn lleiaf yng Ngogledd Cymru, o'r un enw swynol. Mor seinber yw enwau afonydd ac aberoedd Cymru—Hafren (brenhines yr afonydd), Dyfrdwy, Elwy, Conwy, Gwy, Wysg, Teifi, Tywi, Dyfi, ie, a Thafwys, ond fel y mynnodd y Saeson ei dwyn a llygru'r enw yn Thames. A swyn yr enw yn ein meddwl, a murmur yr afon yn ein clyw, dyma ni'n amgylchu Seion bro'r Oesoedd Canol yn y rhanbarth rhamantus hwn. Nid oedd fawr i'w weld ond y magwyrydd moel, a sylfeini rhai o'r pileri wedi eu trwsio'n gywrain a'i cerfio â lluniau. Dywedir mai Cadwallon ap Madog, a fu yn Arglwydd y gororau hyn, a'i sefydlodd yn 1143, mai i'r Urdd Sistersaidd y perthynai'r fynachlog, ac mai mynachod y Tŷ Gwyn ar Daf a ddaeth yma gyntaf, a hi oedd fwyaf ei maint yn Lloegr a Chymru, ac eithrio Caerefrog, Caerwynt, a