Chaerweir. Dywaid Leland na orffennwyd adeiladu'r eglwys, a gyflwynwyd i'r Wyryf Fendigaid, fel pob eglwys arall perthynol i'r mudiad. Fel y mae cwch gwenyn yn anfon heidiau allan i chwilio am gartrefi newyddion, felly, yn yr un modd codai dwsin o fynachod gydag Abad o un fynachlog i ffurfio cartref newydd—dwsin i gynrychioli nifer yr apostolion. Ymhen tua hanner can mlynedd cododd dwsin o fynachod Cwm Hir, ac Abad yn ben arnynt, i fynd i Gymer yn Sir Feirionnydd. Ac fel hyn yr ymledodd y mudiad trwy'r holl wlad. Bob amser y lleoedd mwyaf neilltuedig a ddewisid i ymneilltuo o'r byd, a oedd yn eu golwg hwy, mor ddrwg ac anodd i fyw y bywyd santaidd ynddo, a'r Eglwys mor ddiymadferth. Protestannaidd cyn Protestaniaeth oedd y mudiad, ond fe'i tynnwyd yng nghwrs amser o dan adain yr Eglwys, a hynny a fu achos ei dranc yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Ar ôl ymsefydlu mewn ardal neilltuedig fel Cwm Hir, codid eglwys nid ar gyfair y frawdoliaeth a thrigolion y fro, ond er gogoniant i Dduw, a hynny a gyfrif am ei maint a'i phrydferthwch. Cedwid yr Oriau Mawl a Gweddi bob taer nos a dydd, ac eithrio tri o'r gloch y bore, ar hyd y blynyddoedd o 1143 i 1536, pryd y dymchwelwyd y mynachlogydd. Tai elusen, gweddi, ac ympryd oeddynt hwy, a chedwid y tair dyletswydd fawr mewn cydbwysedd, a nodid eu trefn fel y'u gosodwyd i lawr gan yr Athro Mawr ei Hun. Nid oes yr un addoliad yn gyflawn heb y tair. Noddfa dihiryn yw gwladgarwch, yn ôl Dr. Johnson; yn yr un modd noddfa'r rhagrithiwr yw gweddi ar wahân i'r ddwy ddyletswydd arall. "Dy weddïau di a'th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw", meddai'r angel wrth Cornelius. Yr oedd i bob un o'r frawdoliaeth ei orchwyl neu ei grefft, a chanddynt bopeth yn gyffredin yn ôl trefn Eglwys yr Apostolion.
Yr amcan mawr oedd byw y bywyd santaidd. Dihewyd bennaf Cristnogion y canrifoedd cyntaf yn wŷr, gwragedd, a phlant oedd ennill coron y merthyr a'u rhifo yn nifer "Ardderchog Lu y Merthyri", ond fe ddaeth dyhead arall yng ngwawr yr Oesoedd Canol i weithredu ar fywydau a bucheddau, a hwnnw oedd fod yn rhaid byw bywyd y merthyr ac ennill ei goron, a'i fywyd ef oedd fywyd santaidd, a ph'le y gellid byw