Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y bywyd hwn ond trwy ymneilltuo o'r byd i lanerchau neilltuedig fel yr hen fynachlogydd Sistersaidd.

Fe ddaeth y Diwygiad Protestannaidd â syniad arall i ddylanwadu ar gymdeithas, sef, y gellid bywyd santaidd yn y byd ac nid allan ohono mewn cilfachau neilltuedig, ac y mae'r syniad yna'n gryf yn y byd heddiw.

Gwelsom garreg ar bwys mur a'r Esgyniad wedi ei gerfio'n gywrain arni. Piti na ddiogelid hon yn rhywle rhag i wres haf ac oerni gaeaf yng nghwrs amser effeithio arni. Gwir fod copi carreg pur gywir ohoni yn y mur uwchlaw porth yr Eglwys. Hyd y gwelsom nid oedd ond naw o'r apostolion yn ymgrymu'n wylaidd o amgylch y Crist Esgynedig.

Rhed ffordd blwyf ar draws llethrau'r bryniau i gwr uchaf Cwm Elan, ac oddi yno i Bonterwyd, Pont-ar-Fynach, a hi a deithiai'r mynachod ar eu hymweliadau ag Ystrad Fflur a Chymer.

Drannoeth bwriadem ymweld â dau le a fu o bwys cenedlaethol i Gymru, ond ni chyrhaeddais fy amcan ond ag un yn unig. Yn gydymaith imi y tro hwn yr oedd un o urddasolion addfwynaf yr Eglwys yng Nghymru, ac un a rydd urddas ar ei swydd ac a'n tyn i'w gyfarch o bell. Yn fuan yr oeddem ar y ffordd fawr i Lanfair Muallt. Yno daeth i'm cof bennill annerch y Pêr Ganiedydd a wnaeth y gwcw yn llatai iddo:—

Hed, y Gwcw, hed yn fuan,
Hed, aderyn glas ei liw,
Hed oddi yma i Bantycelyn,
Dwed wrth Mali mod i'n fyw;
Hed oddi yno i Lanfair Muallt,
Dwed wrth Jac am gadw'i le,
Os na chawn gyfarfod yma,
Cawn gyfarfod yn y Ne'.

Mor barod ei awen oedd Pant-y-celyn! Ymawyddai un tro wybod p'run ai ei fab neu ei ferch a etifeddai'i dalent ef. I'w profi dywedodd wrth y mab—"Mae deryn yn y llwyn", ac ateb y bachgen oedd, "Mae twll iddo fynd allan". Trodd at ei ferch ac adroddodd yr un llinell, "Mae deryn yn y llwyn", a hithau ar amrantiad a'i hatebodd—"A'i fwriad yn gywir ar gân". Gweld y tyllau a'r materol a wnâi'r bachgen, a hithau'r eneth a welai'r anweledig ac a glywai'r anghlywadwy. Y mae llawer â llygaid ganddynt ond ni welant, a llawer â