Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chlustiau ganddynt ond ni chlywant. Gwêl eraill yr anweledig a chlywant yr anghlywadwy, a thraethant yr anhraethadwy, a hwynt-hwy yw'r cyfrinwyr sy'n dwyn yr ysbrydol mor agos atom.

Ar ôl teithio milltir neu ddwy ar hyd y ffordd a arweinia i Lanymddyfri, dyma ni yn ymyl cofgolofn mewn cae o fewn ychydig lathenni i'r ffordd. Aethpwyd ati a darllenwyd yr ysgrif yma ar blât pres:—

Gerllaw y fan yma
lladdwyd Llewelyn ein llyw olaf,
O.C. 1282.

Yn ymyl yr oedd Gwesty Llywelyn, a chawsom ymgom â'r wraig, a gwyddai hi'r hanes yn lled dda, ac am y traddodiad i Gwm Hir ddwyn ei gorff i'w gladdu ym mynwent yr Eglwys. Erys amheuaeth am hyn, ond nid oes un amheuaeth am anfon ei ben i'w roddi ar y Tŵr Gwyn yn Llundain. NI chawn fod y Cymry yn gwneud anfadwaith a barbareidd-dra o'r natur yma; ymddygent hwy bob amser yn ddyngarol at eu gelynion gorchfygedig. Yr un driniaeth a fesurwyd i Ddafydd, brawd Llywelyn, a'i olynydd yn y Dywysogaeth.

Dywedai'r wraig fod yr enw Cefn-y-bedd yn hŷn na Llywelyn. Gelwir yr ardal yn awr, ac ers llawer blwyddyn, yn Cilmery ar ôl gorsaf y rheilffordd. Oni fyddwn yn dra gofalus fe gyll y wlad ei hen enwau brodorol.

O fewn ergyd bwa neu lai yr oedd tŷ arall ar ymyl y ffordd, ac fe aethom yno i hel gymaint ag a fedrem o hen draddodiadau. Yno yr oedd ganddi hithau rywbeth i'w ddatguddio am Lywelyn na welais gyfeiriad ato o'r blaen. Cyfeiriodd ni at ffynnon yng nghongl ei gardd a llwybr i fynd ati, a thracht o ddŵr y ffynnon honno a ddygwyd i dorri syched Llywelyn yn ei awr olaf. Gwyrasom ninnau i godi llond llaw o'r dŵr grisialaidd i'w dywallt yn ddiolch offrwm am y gwasanaeth hwn o'i heiddo i'n Llyw Olaf, a'r tract arall fe'i hyfasom. Diolchasom i'r hen wraig am y tamaid hwn o draddodiad, a chefnasom arni hi a'r ffynnon.

Cyn ailgychwyn i gyfeiriad Llanymddyfri cwrddasom â dyn ieuanc gyda dau gi yn gyrru dwy fuwch o'i flaen. Cyfarchasom well i'n gilydd yn Gymraeg. Ar ein llongyfarchiad iddo ar Gymraeg mor lân mewn ardal mor Seisnigaidd, dywedodd