mai o Langamarch y deuai, a bod y Gymraeg yn flodeuog yno. Cwrddasom ag ef drachefn wrth ddychwelyd.
Yn union ar ôl ymado ag ef, cwrddais â dyn a dynnodd fy sylw at ddyn â rhaw ar ei ysgwydd yn pasio heibio. "A welwch chwi'r dyn yna ?" meddai. "Gwelwn". "Y prynhawn Sul o'r blaen yr oedd ar y cae acw yn gwylio tyrchod daear ac yn eu lladd. Yn pasio heibio ar y pryd yr oedd ei weinidog, ac o'i weld felly ac ar y Sul, galwodd ef ato, a cheryddodd ef yn chwerw. Dywedai ei fod yn synnu ato yn mynd allan ar y Sul ar ôl tyrchod daear, ac meddai yntau, "Beth ma nhw'n dod allan ar y Sul, ynte?" Yr oedd yn rhaid gadael y cwmni diddan a mynd eto.
Yn union deg yr oeddem yn Beula—mor Gananeaidd y mae Cymru wedi mynd gyda'i Hermon, Bethel, Nebo, Ierusalem, Bethania, a llawer eraill.
Cefnwyd ar Beula, ac yn ddiymdroi yr oeddem yn ficerdy Eglwys Oen Duw, ac mewn ymgom ddifyrrus â'r ficer rhadlon a'i ferch siriol. Yr oedd golwg hyfryd ar fynyddoedd Epynt o ffrynt y tŷ. Gwelem hwynt dan haen denau o niwl, rhy denau i'w cuddio, a dyna'r olwg a gafodd Pant-y-celyn arnynt pan ganodd:—
Dros y bryniau tywyll niwlog,
Yn dawel, f'enaid, edrych draw,
Ar addewidion sydd i esgor
Ar ryw ddyddiau braf gerllaw:
Nefol Jiwbil,
Gad im weld y bore wawr.