VI
DIGWYDDIADAU'R FFORDD
AR ôl gosber un nos Sul o Fai rhodiwn lwybrau'r ardd gan fwynhau'r golygfeydd o'm blaen ac o'm hôl, i'r dde ac i'r aswy. O'm blaen yr oedd Cader Idris a'i phum pigyn -Tyrrau Mawr, y Cyfrwy, y Gader ei hun, Mynydd Moel, a'r Geugraig, a mynydd y Gader y tu yma iddynt, a Mawddach fel llinyn arian yn rhedeg drwy'r dyffryn. Machludai'r haul gan ruddo'r cymylau a hofrannai fel adar yn y glesni, ac a lewyrchai ar lethrau ysgythrog y mynydd nes ymddangos ohono fel pres yn llosgi mewn ffwrn. Edrychai'r Gader ymhell ac isel fel pe'n amneidio arnaf i'w dringo. Er nad oedd ei dringo yn fy mwriad, fe ddeffrôdd awydd cryf ynof i fynd am dro am ddeuddydd neu dri a chychwyn fore trannoeth. Gwyddwn am hen gyfaill o amaethwr a chanddo dyddyn lled fawr yr ymffrostiai ynddo, er ei fod mewn rhan anghysbell o'r wlad. Bu ef a minnau yng nghwmni ein gilydd lawer iawn o flynyddoedd yn ôl, ac addewais fwy ag unwaith fynd i'w weld yn y rhan bellenig honno. Gorau'i gyd oedd hynny yn fy ngolwg. Gwyddwn yn bur sicr y cawn ef gartref ym mis Mai.
A thrannoeth yn bur fore hwyliais fy ngherddediad tuag ato. Unwaith y bûm yn y gymdogaeth honno o'r blaen, a'r tro hwnnw ar feisicl. Yn y cyfamser yr oedd cyfleusterau teithio wedi cynyddu fel nad oedd gennyf ond rhyw filltir neu filltir a hanner i gerdded. Ar ôl cyrraedd pen fy siwrnai gyda'r bws, cychwynnais ar fy nhaith ar hyd ffordd blwyf dda ei hwyneb a'r gwrychoedd o'i deutu yn wynion gan y Mai. Nid oedd tŷ na thwlc yn agos. Canai'r adar yn soniarus yn y llwyni, a pharablai'r gog ei deunod ar wib heibio. Aderyn rhyfedd yw'r gog, yn dodwy ei hwyau yn nythod adar eraill, a gadael i'r adar bach hynny fagu ei phlant heb dâl na diolch. Yr oedd y ffordd yn unig, ond ei throfeydd yn ei gwneud yn hynod o brydferth, a rhedai aber fechan furmurol yn ochr yn ochr â hi ac ychydig o lathenni oddi wrthi, a thybiwn mai ei hiaith oedd:—