Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Men may come and men may go,
But I go on for ever.

For ever—am byth. Y mae'r syniad "am byth" yn reddfol mewn dyn. Rhodder rhodd fechan i blentyn ac fe ofyn yn ostyngedig a gwylaidd a gaiff e' hi "am byth".

Yr oedd unigrwydd i'w deimlo ar y ffordd honno, a'r syniad a ddaw i'r meddwl yw'r "am byth". Bu'r genweiriwr medrus yn rhodio glannau'r afon, ond y mae ef wedi mynd a llawer genweiriwr ar ei ôl, a'r ffwdan i ddal y brithyll ofnus wedi darfod. Y fforddolion llon a phrudd a fu'n gwrando ar furmur yr afon, y maent hwythau wedi mynd, ond y mae hi yn dal i fynd a mwmian-ganu ar y tywod mân.

Ond y mae'n rhaid i minnau fynd hefyd, a mynd a wneuthum nes dyfod ohonof o olwg a chlyw yr afonig. Ac yn y tro hwnnw yr oedd neidr ddolennog ym mol y clawdd. Arhosais i edrych arni. Llygadrythai ar rywbeth. Dynesais yn araf a gwelwn froga yn llygadrythu arni hithau. Estynnai hi ei phen yn araf a cholynnai ef nes ysboncio ohono o dan yr effeithiau, ond ni wnâi un ymdrech i ffoi. Yr ydoedd fel pe wedi ei swyngyfaredd ganddi. Edrychai'r ddau ym myw llygaid ei gilydd. Ofn oedd arno ef i droi ei gefn ac iddi hithau fanteisio ar hynny o gyfleustra. Er ei golynnu fel hyn yn aml, ni wnâi un ymdrech i dalu'r pwyth yn ôl na ffoi chwaith o'r perygl. Ar hyn amlygais fy ffon iddynt, a chiliodd hi yn ôl i'w gwâl, ac yntau y tu ôl i garreg, ac fe euthum innau ymlaen ychydig o gamau. Dychwelais a chefais hwynt yn yr un cyflwr drachefn, y ddau yn llygadrythu ar ei gilydd. Wedi ei swyngyfareddu oedd y broga gan ddisgleirdeb llygad y neidr a'r ofn yn ei fynwes ef ei hun. Picellai hi ef yn chwareus gan adael diferyn o wenwyn ymhob briw i'w gwsno cyn yr act olaf o'i lyncu. Nid oedd modd gwahanu'r ddau heb ladd un ohonynt, ond gan nad oeddwn mewn unrhyw ysbryd dialgar y dydd hwnnw gadewais iddynt gan fynd ymlaen. Hen air Cymraeg a ddywed na thyf porfa ar fedd y dyn dialgar.

Ymlaen â mi ar hyd ffordd gaeadfrig y cwm cul nes dyfod ohonof i dro arall arni, ac yno'r oedd dyn yn eistedd ar ymyl y ffordd yng nghysgod llwyn gwyn gan flodau Mai. Holodd faint o'r gloch ydoedd, ac arwydd oedd hynny am ymgom, a chafwyd ymgom hir. Eisteddais ar garreg tra rhostiai yntau