ei facwn wrth y tân, a'r nodd yn diferu'n ei fara Gan mor hyfryd oedd yr arogl a minnau heb brofi tamaid na llymaid ers rhai oriau, amheuwn a allwn wrthod tamaid pes cynigiai, ond ni fu mor foesgar â chynnig, ac ymgedwais innau rhag rhoddi un awgrym o'm chwant. Ar ôl gorffen ohono ei bryd, tynnodd allan getyn clai du a rhyw fodfedd o goes iddo: maluriodd ei faco a llanwodd ei getyn gan ei danio; gorffwysodd ei gefn ar garreg ac â'i freichiau ymhleth dechreuodd ysmygu, a chyfaddefai ei fod yn berffaith hapus.
Un o bererinion y ffordd oedd ef wedi ei gyfarwyddo i'r cwm cul hwn gan arwyddion dirgel a gafodd yn y tro ar y ffordd fawr. Y mae gan y dosbarth hwn o deithwyr y ffyrdd arwyddion dirgel i'w cyfeirio i dai caredigion. Adroddodd ei hanes yn fanwl fel y bu yn y Rhyfel Mawr, a'r India ar ôl hynny. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth a manwl o'r byd, a mesurai deilyngdod gwleidwyr y byd. Yn ei dyb ef yr oedd holl wledydd y byd gwareiddiedig yng nghafaelion chwyldroad mawr a chyrhaeddbell. Hen filwr ydoedd, ac yn awr wedi troi i gerdded y ffordd. Yr oedd yn hoff o'r ffordd, a theithiai o fan i fan yn ôl ei fympwy. Digon iddo ydoedd ambell wythnos o waith. Cadw'r corff yn lân trwy fynych ymolchi mewn dwfr glân a rhedegog, ac un pryd da o fwyd y dydd oedd yn ddigon i gadw iechyd yn y corff. "Dyma fi", meddai, "cyn iached â'r gneuen, a chyn hapused â'r gog' Gwyddai oddi wrth yr arwyddion dirgel a'u tywysodd hyd yma y caffai ychydig ddyddiau o waith yn y fferm yr oedd yn mynd iddi, ac i'r un man yr oeddwn innau'n mynd.
Cyd-deithiasom gan ymgomio, ac yr oedd ei gwmni yn hyfryd, canys yr ydoedd yn ddyn gwybodus, ac o farn aeddfed. Adroddodd ei hanes yn y Rhyfel Mawr, a'r caledi a fu arno yng nghymdogaethau Arras ac Ypres. Na, nid oedd am roddi i fyny gerdded y ffordd, canys dyna oedd ei fwynhad pennaf yn awr. Awgrymais nad oedd hyn i barhau'n hir a'r blynyddoedd yn mynd mor gyflym. Yr oedd wedi trefnu ar gyfair hyn hefyd. Yn llety'r Undeb yr oedd ei daith i orffen, ac ni fyddai ei aros yno ond byr, canys nid oedd neb o'i ddosbarth ef yn byw'n hir, nac yn dymuno byw'n hir, wedi gorffen teithio. Beth wedyn ? "Wel", meddai, gyda dwyster yn ei lais, "yn llaw fy Nhad, a'm tywysodd hyd yn hyn".