Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IX

O'R GOGLEDD I'R DE

AR ôl aros rai dyddiau yn swyn mynachlog Ystrad Fflur, a mwynhau golygfeydd arddunol y fro; ar ôl ymweld â Phont y Gŵr Drwg, a chlywed yr hen chwedl ynglŷn â chodi'r bont; ar ôl colli'r ffordd i'r Eglwys Newydd a'r Hafod, a dychwelyd gyda glannau Ystwyth, ac i fyny rhiw Trefriw, a cholli amser yno oherwydd colli o'r modur ei anadl bron ar dop y rhiw—ar ôl yr holl droeon hyn, a mwy na fedraf fynegi yma, cyrhaeddwyd mynwent ac eglwys Gwnnws. Y mae'n rhaid teithio ymhell i weld mynwent ac eglwys hafal eu safiad i'r rhain. Cylch crwn yw'r fynwent, ac y mae cylch arall o fewn y muriau. Y peth hynaf yn y fynwent yw carreg fedd, a adnabyddid yn yr ardal, a'r ardaloedd o amgylch, fel carreg fedd Caradog. Y dyb oedd mai yno y claddwyd Caradog, ac islaw y mae cwm a elwir Cwm Caradog, lle y bu Caradog yn ymguddio, ond yn y diwedd ef a ddaliwyd ac a laddwyd. Dyna hen draddodiad y fro, a rhaid yw bod rhywbeth wrth wraidd yr hen draddodiad hwn fel pob traddodiad arall.

Y dyb a goleddir yn awr yw mai carreg o'r cyfnod Goedelig ydyw, ac mai Ogam yw'r ysgrifen sydd arni. Y mae'r garreg yn awr yng ngofal yr Ancient Monuments Society.

Cerddasom trwy'r fynwent, amgylch ogylch, a darllenasom ar y meini-cof enwau llawer hen gydnabod ac anwyliaid lawer. Amgylchynasom yr Eglwys a sylwasom ar ei muriau a'i chlochdy. A chlywem lais dieithriol a chwynfannus yn cyniweirio trwy'r lle, ac yn oedi ar frigau uchaf yr yw, ac yn cwyno'n ddolefus—"Dyma y rhai y'm clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion". "Nid gelyn a'm difenwodd; yna dioddefaswn; nid fy nghasddyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef; eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a'm cydnabod".

Da oedd gennym gefnu ar y tristwch hwn. Ac ar ôl treulio noson ddiddan dan gronglwyd gysurus yn Llanrhystyd, aed yn blygeiniol drannoeth ar bererindod i Dyddewi, ac i mi y tro cyntaf erioed. Prysurwyd trwy froydd newydd, prydferth ac arddunol. Amhosibl oedd mynd trwy Gei Newydd