Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heb guro wrth ddôr No. 3, Rock Street, ac ysgwyd llaw â'r preswylydd ac edrych yn ei wyneb, a chlywed ei lais gyda mwynhad. Ymlaen â ni, a thrwy Nanhyfer a'r Eglwys, a darllen tabled goffa Penfro, ac i gyfeiriad Tyddewi.

Nesâwyd at y ddinas—nod ein pererindod—a'r modur yn arafu ei olwynion, a'r haul yn gwenu ar fangre mawl a gweddi trwy gydol yr oesau, a ninnau'n llygaid a chlustiau i gyd yn disgwyl am yr olwg gyntaf ar Dyddewi. Nid rhyfedd i Luther syrthio ar ei wyneb i'r llawer ar ei waith yn edrych am y tro cyntaf ar ddinas y Saith Bryn. Yr oedd cysegredigrwydd y fangre neilltuedig hon yn disgyn yn drwch ar ein hysbrydoedd ninnau. Yn y man dyna'r tŵr sgwâr yn dechrau dod i'r golwg, ac yn ddiymdroi daeth yr holl fangre i'r golwg, a chreithiau dyfnion yr oesau arni, a'r fynachlog fawr fel y myrtwydd yn y pant, a'r arogl fel arogl y myrr yn esgyn yn ysgeiniau o atgofion i'n meddyliau a'u melysu â'r ymdrechion ysbrydol a thymhorol a fu ei hanes wrth siglo crud y genedl a'i thywys ar hyd llwybrau moes a chrefydd. Ac nid yw'r genedl yn ei munudau gorau o'i hymwybyddiaeth yn anghofus o'i dyled iddi, a hawdd yw ei chlywed yn sisial yn nyfnder ei henaid "Os' anghofiaf di, anghofied fy neheulaw ganu; glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di goruwch fy llawenydd pennaf".

Disgynnwyd ar hyd grisiau i'r Eglwys orwych i weld y Deon yno, un o "hogiau'r pedwar ugain", yn tywys dosbarth lluosog o ferched trwy'r Eglwys a thrwy ei hanes o ganrif i ganrif, a thrwy fil a mwy o droadau melys a chwerw yn ei hanes hen, ac yn y diwedd ddangos y creiriau santaidd a wnaeth i bob un ohonom dynnu ei anadl ato wrth feddwl iddynt fod unwaith yn rhan o'r corff hwnnw y mae ei ysbryd yn awr yn hofran fel angel gwarcheidiol y lle.

Arosasom ar y ris uchaf i edrych ar y fynachlog orwych dan ei chreithiau dyfnion, a chreithiau a chlwyfau na fedr na natur nac amser eu cuddio. Gwelem eiddew yn ymestyn mewn mannau ar hyd y muriau fel pe'n awyddus i dynnu cochl drostynt, ac yn methu. Yr oedd llygad y Deon yn rhy graff, a'i galon yn rhy gynnes, i adael hyd yn oed i gysgod glaswelltyn guddio briwiau plentyn ei ofal. Eu clwyfo fu tynged cymwynaswyr pennaf y byd; a braint cymwynaswyr pennaf y byd yw cadw'r clwyfau yn agored.