Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yma yr oeddynt yn agored a gweledig, ac yn parablu i'r neb a wrendy, "Onid gwaeth gennych chwi, y rhai a dramwywch y ffordd? Gwelwch, ac edrychwch, a oes y fath ofid a'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi".

Arweiniodd y ffordd ni wedyn, ond nid yr un diwrnod, i Gribin. A chofiem mai yn y gymdogaeth hon yn rhywle yr oedd Maes-y-mynach, cartref Daniel Ddu o Geredigion, a aned yno tua diwedd y ddeunawfed ganrif, ac a fu farw tua chanol y ganrif nesaf, ac yntau ar y pryd ond prin wedi croesi canol oed. Yr ydoedd ef yn ysgolor gwych, ac yn Gymrawd o Goleg yr Iesu yn Rhydychen. Cyhoeddodd lyfr o'i farddoniaeth dan yr enw Gwinllan y Bardd, ac ni fu llyfr â mwy o ddarllen arno yng Ngheredigion y pryd hwnnw na'r Winllan. Byw i ganu a physgota oedd hoffus waith Daniel Ddu Er hoywed yw yn ei farddoniaeth, gaeth a rhydd, dioddefai'n drwm oddi wrth nychdod ysbryd a'i gorchfygodd yn y diwedd. Cof gennyf weld ei dryfer bysgota dan fondo Capel Croes yn Swydd-ffynnon ynghadw gyda'i hen gludydd arfau a breswyliai yno, ac a hoffai adrodd eu helyntion ar hyd glannau Teifi, ac fel y byddai ei feistr yn ysgrifennu ar dameidiau o bapurau a'u cadw wedyn ym mhoced ei wasgod.

Y cymeriad arall a hanai o Gribin oedd y Dr. Rees, Bronant, y mwyaf ei hiwmor yn ei ddydd. Dyn trwsiadus, lluniaidd o gorff a glandeg ei wyneb oedd y Doctor, a wig felen yn lle gwallt ar ei ben. Bu ei wig a'i hiwmor yn fagl iddo lawer tro, a mynych y bu raid i'w hiwmor amddiffyn ei wig. Arwydd o falchder oedd gwisgo wig, a bu cryn gynnwrf yn y gwersyll. Aeth un o'r Hir Wynebau i siarad â'r Doctor ar y pwnc. "Dyma fi", meddai, "yn foel o glust i glust ac o dalcen i wegil, ac nid oes arna' i eisiau un wig". "Nac oes, 'y machgen i", meddai'r Doctor, "ac nid oes eisiau eu toi ar dai gweigion".

Synnai ar lawer fod y Doctor mor iach ei ffydd, ac yntau wedi ei fagu yn Cribin a'i addysgu mewn ysgol Undodaidd. "Fel hyn yr oedd hi", meddai yntau, "yr oeddwn i yn debyg i ddyn yn byta sgadenyn byta'r cig a gadael y blew".

Ar ôl rhai blynyddoedd o oedi penderfynwyd cyflwyno i'r Doctor ddiploma'r D.D., a phennwyd ar noson mewn capel bychan ar Fynydd Bach. Tybiodd y Doctor mai gweddus fyddai iddo ymddangos mewn het silc newydd. Ac fe aeth i brynu un yn siop Howel yn Aberystwyth. Gofynnwyd seis ei Yma yr oeddynt yn agored a gweledig, ac yn parablu i'r neb a wrendy, "Onid gwaeth gennych chwi, y rhai a dramwywch y ffordd? Gwelwch, ac edrychwch, a oes y fath ofid a'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi".

Arweiniodd y ffordd ni wedyn, ond nid yr un diwrnod, i Gribin. A chofiem mai yn y gymdogaeth hon yn rhywle yr oedd Maes-y-mynach, cartref Daniel Ddu o Geredigion, a aned yno tua diwedd y ddeunawfed ganrif, ac a fu farw tua chanol y ganrif nesaf, ac yntau ar y pryd ond prin wedi croesi canol oed. Yr ydoedd ef yn ysgolor gwych, ac yn Gymrawd o Goleg yr Iesu yn Rhydychen. Cyhoeddodd lyfr o'i farddoniaeth dan yr enw Gwinllan y Bardd, ac ni fu llyfr â mwy o ddarllen arno yng Ngheredigion y pryd hwnnw na'r Winllan. Byw i ganu a physgota oedd hoffus waith Daniel Ddu Er hoywed yw yn ei farddoniaeth, gaeth a rhydd, dioddefai'n drwm oddi wrth nychdod ysbryd a'i gorchfygodd yn y diwedd. Cof gennyf weld ei dryfer bysgota dan fondo Capel Croes yn Swydd-ffynnon ynghadw gyda'i hen gludydd arfau a breswyliai yno, ac a hoffai adrodd eu helyntion ar hyd glannau Teifi, ac fel y byddai ei feistr yn ysgrifennu ar dameidiau o bapurau a'u cadw wedyn ym mhoced ei wasgod.

Y cymeriad arall a hanai o Gribin oedd y Dr. Rees, Bronant, y mwyaf ei hiwmor yn ei ddydd. Dyn trwsiadus, lluniaidd o gorff a glandeg ei wyneb oedd y Doctor, a wig felen yn lle gwallt ar ei ben. Bu ei wig a'i hiwmor yn fagl iddo lawer tro, a mynych y bu raid i'w hiwmor amddiffyn ei wig. Arwydd o falchder oedd gwisgo wig, a bu cryn gynnwrf yn y gwersyll. Aeth un o'r Hir Wynebau i siarad â'r Doctor ar y pwnc. "Dyma fi", meddai, "yn foel o glust i glust ac o dalcen i wegil, ac nid oes arna' i eisiau un wig". "Nac oes, 'y machgen i", meddai'r Doctor, "ac nid oes eisiau eu toi ar dai gweigion".

Synnai ar lawer fod y Doctor mor iach ei ffydd, ac yntau wedi ei fagu yn Cribin a'i addysgu mewn ysgol Undodaidd. "Fel hyn yr oedd hi", meddai yntau, "yr oeddwn i yn debyg i ddyn yn byta sgadenyn byta'r cig a gadael y blew".

Ar ôl rhai blynyddoedd o oedi penderfynwyd cyflwyno i'r Doctor ddiploma'r D.D., a phennwyd ar noson mewn capel bychan ar Fynydd Bach. Tybiodd y Doctor mai gweddus fyddai iddo ymddangos mewn het silc newydd. Ac fe aeth i brynu un yn siop Howel yn Aberystwyth. Gofynnwyd seis ei