ben. "Seis fy mhen", meddai'r Doctor yn ddirmygus, "nid oes yr un wlad ond Unol Daleithiau America wedi ei fesur eto". "Dyma het 7¼", meddai'r siopwr. "Rho di I o flaen y 7, ac fe fyddi di yn agosach i'th le", oedd ateb y Doctor. A hynny a wnaed, ac yr oedd yr het yn ffitio i'r dim. "Yn awr, tor di lythrennau blaen fy enw tu fewn i'r het", oedd gorchymyn nesaf y Doctor, a gwnaed hynny eto. "D.R. 7¼ D.D." "Y mae'n rhaid i ti dorri eto, U.D.A., gwaith nid wyf am fy nghyfrif ymhlith pibrwyn D.D.s y wlad hon", meddai'r Doctor eto. Ar hyn dyna bwff o chwerthin o'r tu ôl iddo, a throes y Doctor drach ei gefn, i weld yno neb llai na'r Prifathro T. C. Edwards a oedd wedi ei ddilyn i'r siop yn ddirgelaidd. Edrychodd y Doctor arno o'i ben i'w draed, ac wedyn o'i draed i'w ben, ar draws ac ar hyd, ac wedyn fe ymunionodd nes gwasgu coler felfed ei gôt dan fargod melyn y wig, ac meddai, "Reëlaätive greatness, Tom". "Reëlaätive greatness, y 'machgen i", ac fe aeth y ddau allan fraich ymraich ac i gwrdd â Chynddylan, a'r Doctor a'i cyfarchodd yntau â'i "Reëlaätive greatness", ac fe aeth y tri am dro ar hyd y Parêd. Fe'u gwelwyd gan un o'r Hir Wynebau, a'u hanerchodd dipyn yn chwareus fel y gweddai i un yn hau cyhoeddiadau—"Y mae'n ddiwrnod mawr yn Aberystwyth heddiw, tri o Ddoctoriaid!" Ar gais y Principal cododd y Doctor ei fraich chwith, ac fe'i hestynnodd hi at y môr a oedd yn weirgloddiau llydain ar y pryd, a chyn lased â'r genhinen, a chychod y dref yn hel mwyar duon ar hyd-ddynt. "Ie, wel di", meddai'r doctor, "dyfnder a eilw ar ddyfnder. Ond cofia, Reëlaätive greatness".
Fe wyddai'r Doctor yn iawn sut i yrru'r pruddglwyf o ben a chalon y Principal a garai mor annwyl â'i enaid ei hun.
Yn blygeiniol fore Gŵyl y Banc, a'r brecwast wedi ei baratoi y noson gynt, codasom am bump o'r gloch y bore, a chyn pen awr yr oeddem yn disgwyl am y modur. Ac O fore! a'r haul yn dechrau codi i asur las ddigwmwl. Bore fel hwn a'i gwna'n werth byw mewn byd mor brydferth, a ninnau mewn iechyd ac ysbryd i'w fwynhau.
A ni yn y mwynhad hwn—mwynhad y bore—a'r haul yn graddol esgyn yn ei ysblander, ac yn bwrw ei belydrau yn wreichion i lwyn gwyrddlas ar glawdd yn ymyl nes ei oddeithio yn fflam eirias, a chydymaith fy nheithiau'n paratoi'r