Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

modur, trois innau i edrych ar y weledigaeth hon—"y berth yn llosgi a heb ei difa"—a'm calon innau yn llosgi gan ryw dân na fedr fy mhin ei ddisgrifio. Wrth edrych ar y weledigaeth llosgai 'nghalon, a'i llosgfeydd oedd yn felys a hyfryd, a dirgel ddymunais am iddi barhau, canys ni phrofais erioed o'r blaen fwynhad cyffelyb. Ofnwn glywed sŵn y modur yn torri ar ddistawrwydd santaidd yr olygfa, a throis drach fy nghefn, ac ni allai fod yn fwy nag eiliad, ac yr oedd yr olygfa wedi diflannu, a'r berth wenfflam yn awr yn llwyn gwyrddlas. Gwelais y tân a theimlais y presenoldeb. Yn awr yr oedd y cwbl wedi diflannu ond o'm calon ; llosgai'r tân yno o hyd. Ac yn yr ysbryd hwn cipiwyd fi gan y modur trwy froydd prydferth a llanerchau teg, a'r haul yn tywynnu, ac yn Abaty Tintern yr ymddeffroais.

Yno, rhodiasom amgylch oglych yr adeilad gorwych a'i lawntiau teg, a meddwl am y presenoldeb a fu yno, a'r mawl a'r weddi ddi-dor a fu'n esgyn i fyny ar hyd yr oesau—

Pa sawl ave, cred, a phader,
Ddwedwyd rhwng y muriau hyn?