Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwahoddedigion a'r pyrth iddynt o led y pen. O'r diwedd dyna drwst cerbyd, a throwyd i edrych. Ie, cerbyd y gwahoddedigion ydoedd, yn debyg yr olwg arno i gerbyd adar Ferrari ar Barêd Llandudno, ac un o'r gwahoddedigion yn eistedd ar sedd yn ymyl y gyriedydd. Symudliw oedd yr anifail a adawyd yn ôl yn Llanrwst gan ryw arddangosfa deithiol. Cyn gynted ag y daeth y cerbyd i lawnt y cylch crwn o flaen y castell gyda'r hen ddeial yn y canol, crychodd yr anifail ei glustiau fel mewn awydd mynd trwy ei hen gampau, a hynny a wnâi pe bai chwaneg o ebran yn ei stumog, a mwy o gnawd am ei esgyrn. Yn amddifad o'r ddau beth angenrheidiol hyn ymfodlonodd ar wyro'i ben i lyfu'r gwlith ar y pren bocs. Disgynnodd y gwahoddedigion o'r cerbyd yn debyg fel y disgrifia Goronwy Owen amgylchiad arall—

Try allan ddynion tri-llu Y sydd, y fydd, ac a fu.

A phan y'u gwelwyd, dyna bwff o chwerthin gan yr Arglwyddes. Trodd ei arglwyddiaeth ati gan ddywedyd, My dear". Edrychai ef yn sobr i'r eithaf, er bod cryniadau botymau ei wasgod yn bradychu llosg-fynyddoedd yno ar ffrwydro. Ac yn sŵn y "My dear" diflannodd hi i fyny'r grisiau ac i'r oriel y bydd ysbryd Syr John yn rhodio ynddi. A phwy a allasai beidio â chwerthin wrth weld rhyw ddeg o ddynion yn bentwr mor amryliw eu gwisg â'r hen geffyl brithliw a'u cludodd yno? Yr oedd un mewn het silc a menig gwynion am ei ddwylo, un arall mewn dillad brithion a sgidiau isel a sanau gleision, ac un arall mewn dillad dawnsio. Ai rhyfedd i'r Arglwyddes roi pwff o chwerthin, a diflannu dan edrychiad deifiol ei Harglwydd, ac yn sŵn "My dear" na fedrai'r un dewin blymio ei ystyr !

Hawdd y gallai ef ddweud "My dear", ac edrych yn wgus dan aeliau trymion pan oedd ar ei daith trwy Gymru fel Cadeirydd Dirprwyaeth y Tir oherwydd yr oedd wedi ei ddisgyblu i reoli'r mynyddoedd llosg a godai yn ei fynwes. Digon yw cyfeirio at un amgylchiad fel enghraifft.

Daeth Dirprwyaeth y Tir i Lanrwst, ac eisteddodd yn Neuadd y Cyngherddau i dderbyn tystiolaethau. A'r tyst cyntaf oedd Elis o'r Nant, o goffa annwyl, a ddaeth yn dra bore i'r dref. Ar yr awr benodedig galwyd arno gan yr gwahoddedigion a'r pyrth iddynt o led y pen. O'r diwedd dyna drwst cerbyd, a throwyd i edrych. Ie, cerbyd y gwahoddedigion ydoedd, yn debyg yr olwg arno i gerbyd adar Ferrari ar Barêd Llandudno, ac un o'r gwahoddedigion yn eistedd ar sedd yn ymyl y gyriedydd. Symudliw oedd yr anifail a adawyd yn ôl yn Llanrwst gan ryw arddangosfa deithiol. Cyn gynted ag y daeth y cerbyd i lawnt y cylch crwn o flaen y castell gyda'r hen ddeial yn y canol, crychodd yr anifail ei glustiau fel mewn awydd mynd trwy ei hen gampau, a hynny a wnâi pe bai chwaneg o ebran yn ei stumog, a mwy o gnawd am ei esgyrn. Yn amddifad o'r ddau beth angenrheidiol hyn ymfodlonodd ar wyro'i ben i lyfu'r gwlith ar y pren bocs. Disgynnodd y gwahoddedigion o'r cerbyd yn debyg fel y disgrifia Goronwy Owen amgylchiad arall—

Try allan ddynion tri-llu
Y sydd, y fydd, ac a fu.

A phan y'u gwelwyd, dyna bwff o chwerthin gan yr Arglwyddes. Trodd ei arglwyddiaeth ati gan ddywedyd, "My dear". Edrychai ef yn sobr i'r eithaf, er bod cryniadau botymau ei wasgod yn bradychu llosg-fynyddoedd yno ar ffrwydro. Ac yn sŵn y "My dear" diflannodd hi i fyny'r grisiau ac i'r oriel y bydd ysbryd Syr John yn rhodio ynddi. A phwy a allasai beidio â chwerthin wrth weld rhyw ddeg o ddynion yn bentwr mor amryliw eu gwisg â'r hen geffyl brithliw a'u cludodd yno? Yr oedd un mewn het silc a menig gwynion am ei ddwylo, un arall mewn dillad brithion a sgidiau isel a sanau gleision, ac un arall mewn dillad dawnsio. Ai rhyfedd i'r Arglwyddes roi pwff o chwerthin, a diflannu dan edrychiad deifiol ei Harglwydd, ac yn sŵn "My dear" na fedrai'r un dewin blymio ei ystyr!

Hawdd y gallai ef ddweud "My dear", ac edrych yn wgus dan aeliau trymion pan oedd ar ei daith trwy Gymru fel Cadeirydd Dirprwyaeth y Tir oherwydd yr oedd wedi ei ddisgyblu i reoli'r mynyddoedd llosg a godai yn ei fynwes. Digon yw cyfeirio at un amgylchiad fel enghraifft.

Daeth Dirprwyaeth y Tir i Lanrwst, ac eisteddodd yn Neuadd y Cyngherddau i dderbyn tystiolaethau. A'r tyst cyntaf oedd Elis o'r Nant, o goffa annwyl, a ddaeth yn dra bore i'r dref. Ar yr awr benodedig galwyd arno gan yr