Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

agosaf yw'r gyntaf. Bys estynedig y bugail hwnnw oedd un o'r colynnau cudd mewn hanes. Ni chynhyrchodd Cymru eto'r un hanesydd a rydd y filfed ran o bwys ar y mân golynnau hyn mewn hanes, a hwythau'n fynych yn cynnwys yr unig eglurhad ar gyfnodau. Gymaint a ysgrifennwyd yn ddiweddar ar y Tadau Pererin, o blaid ac yn erbyn, a hyd y gwelais i, ni welwyd gan yr un ysgrifennydd yr un o'r colynnau cudd a wnâi'r hanes yn ddigon eglur, na fyddai raid i neb gywilyddio na synnu o'u plegid. Y mae Unol Daleithiau America yn gyfiawnhad o fordaith y Mayflower, ac y mae'r olwg bresennol ar Eglwys Loegr yn gyfiawnhad o bolisi Siarl I a'r Archesgob Laud, er i'r ddau gael torri'u pennau gan yr oes honno. Y canlyniad anwrthwynebol o anwybyddu'r colynnau cudd, neu fethu eu gweld, gan haneswyr yw camarwain y werin, a magu ynddi ragfarn, a dyrchafu Llywelyn ein Llyw Olaf yn uwch na Llywelyn Fawr, a'r Tadau Pererin yn fwy na chyfieithwyr yr Ysgrythurau, ac mai tua'r ddeunawfed ganrif, a dechrau'r ganrif ddilynol, y cododd yr haul gyntaf ar Gymru. Nid ar y werin y mae'r bai, ond ar ysgrifenwyr hanes na welir ganddynt mo'r colynnau cudd.

Ar y bont hon—hen bont Inigo Jones—y gwelwn y proffwydi a ddug y cyfnod Protestannaidd, ac nid y lleiaf yn eu plith oedd hen deulu Gwydir, a'r hen Syr John, er mor drahaus, awdurdodol a phenderfynol ydoedd. A dyna'r hen gastell yr ochr arall i'r afon, a fu'n lletya brenhinoedd a breninesau, tywysogion a llywiawdwyr.

Gyda Mary Wynne, y brydferthaf o ferched, aeth y Castell i deulu Ancaster, ac arhosodd yn ei feddiant hyd yr amser y lloffwn ynddo, pryd y daeth i feddiant Arglwydd Carrington, eto trwy briodas o'r un gwehelyth. Ni chafodd na brenin na thywysog y fath groeso ag Arglwydd Carrington a'r teulu ar y tro cyntaf i'w cartref newydd. Arwisgwyd yr hen dref, a phontiwyd yr heolydd â baneri o ffenestr i ffenestr, ac wedyn y ffordd i'r Castell o frigyn i frigyn. I dalu'r pwyth yn ôl gwnaed gwledd yng Nghastell Gwydir i ryw ddeg a ffurfiai'r pwyllgor croeso.

Awr y wledd a ddaeth, ac yn ystafell y derbyn yr oedd Arglwydd ac Arglwyddes Carrington, Mr. McIntyre, goruchwyliwr yr ystad, a rhywun arall. Disgwylid am y