Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

garreg i'r afon i godi'i ben fan draw, a dychwelyd i hawlio'r chwecheiniog a enillasai.

Egyr golygfeydd arddunol a rhamantus o'n blaen. Dyma Ddyffryn Conwy ac un o ddyffrynnoedd prydferthaf Cymru, a chyfoethocaf mewn hynafiaethau. Y bont dan ein traed sydd o gynllun Inigo Jones, archadeiladydd mwyaf ei ddydd yn nechrau'r ail ganrif ar bymtheg, a aned yn Pencraig Inco uwchlaw Trefriw, ac a noddwyd' gan Syr John Wynne o Wydir. Ychydig islaw saif Eglwys Blwyfol Llanrwst a Chapel Gwydir—Eglwys sydd yn nodedig am Arwydd y Grog a roddwyd iddi ar ddymchweliad mynachlog Maenan. Yng Nghapel Gwydir y mae delw garreg o Howel Coetmor, ac arch garreg Llywelyn Fawr, a dwy golofn goffa i deulu Gwydir a roddwyd i fyny gan Syr Richard Wynne, mab ac etifedd Syr John Wynne. O fewn llai na dau ergyd bwa mae'r Plas Isa, lle genedigol William Salesbury, cyfieithydd y Testament Newydd i'r Gymraeg, a dim ond enwi un o'i orchestion. Yn is i lawr gwelir olion hen fynachlog Maenan, a symudwyd yno o Aberconwy gan Lywelyn Fawr, ac a waddolwyd mor hael ganddo, na fedr Cymru fesur yn iawn ei dyled iddi hi a'i chwaer fynachlog, Ystrad Fflur yn y De. Gryn dipyn yn is i lawr eto, yng Nghonwy, y ganed Richard Davies, unwaith Esgob Tyddewi, yr Esgob Thomas Davies, a'r Archesgob John Williams, Ceidwad y Sêl Fawr dan deyrnasiad y Brenin Iago I.

Brenin Iago I. Trown wyrdro'n cefn a dacw'r Wybrnant a'r Tŷ Mawr, lle genedigol yr Esgob Morgan, cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg, a gyhoeddwyd yn 1588. Ni chawsai Cymru nac Esgob Morgan na Beibl oni bai am yr hen fynach hwnnw a ffodd am nodded, ar ddymchweliad mynachlog Maenan, i'r Tŷ Mawr at John a Lowri Morgan, rhieni'r esgob, dyweded Syr John Wynne faint a fynno am ddyled teulu'r Tŷ Mawr iddo ef a'i deulu. Y fynachaeth yn ei chwymp yn anfwriadol, ond yn fwriadol i Allu Uwch, a roddodd y Beibl i Gymru—y colynnau cudd hyn mewn hanes sydd yn ddiddorol. Dywed Victor Hugo ei bod yn ddigon tebyg y buasai wyneb Ewrop yn wahanol i'r hyn ydyw heddiw, oni bai am y bachgen o fugail hwnnw yn cyfeirio â'i fys y ffordd agosaf i faes Waterloo i un o gatrodau Napoleon pan oedd Wellington yn gweddïo am y nos neu Blucher. Y pryd hwnnw, fel llawer pryd wedyn, nid y ffordd