wneuthur arwerthiant ar y cwbl a feddai ac a fforddiai hepgor, ac ymneilltuodd i Heol Scotland, ac i lan aberig fechan a redai ymron heibio i ddrws ei dŷ a enwyd ganddo'n 'Glan Cerith'. Unwaith yr ymwelais ag ef yno. Ychydig o wahaniaeth oedd rhwng y lle olaf hwn a'r Sanctum, gan mai'r un dodrefn oedd yn y ddau. Eisteddai y nawn hwnnw yn ei gadair a oedd hefyd yn fath o wely, ei fwrdd â'i bentwr wrth ei benelin, a'r un hen gath yn canu ei chrwth ar yr aelwyd. Yr oedd hi wedi dilyn ei meistr i'w hunan-alltudiaeth. Llesg oedd yr olwg arno. Y bore hwnnw ymwelwyd ag ef gan Elis o'r Nant a rhyw ddau neu dri o'r trefwyr, a neb yn waglaw. Estynnodd Gwilym y blwch snisin arian yn ôl ei arfer i'w gyfeillion p'run ai y cymerid ef ai peidio. Ysgrifennodd dipyn o Glan Cerith a chyhoeddodd felltithion celyd yn erbyn pob Philistiad a feiddiai groesi defodau Barddas Arwest Glan Geirionydd. Gwanhaodd yn raddol, a chlafychodd, a'i enaid aflonydd a ffodd i dawelwch y byd mawr ysbrydol, a chafodd bawb, ymhell ac agos, yn garedig wrtho. Addolydd cyson a defosiynol ydoedd yn hen Eglwys y plwyf ar lan Conwy, a gwrandawydd mawr. Er wedi marw y mae eto'n fyw yn ei awdl odidog ar "Fynyddoedd Eryri", y dywedai Elfyn iddo luchio mwy o farddoniaeth iddi nag sydd ym mhentwr awdlau arobryn ein Heisteddfodau. Un o glasuron yr iaith yw'r awdl hon, a chafodd y Gadair amdani yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn 1861, os da y cofiaf. Llawer orig hapus a dreuliwyd yn ei gwmni, er y mynnai ef weld mwy o ddifrifwch yn ei ddisgyblion ysbas a chyfallwy at urddas Gorsedd Glan Geirionydd. Ond rhaid ymatal a gadael yr hen dderwydd, canys dyna ydoedd, i huno ei hun olaf o ran ei gorff yn naear ei hoff ddyffryn, ac yn si'r hen afon sydd, ys dywedodd yntau—
Yn fwcled arian ar esgid Eryri.
I b'le y trown ein hwynebau nesaf i hel ychydig dywysennau i wneuthur yr ysgub yn gyflawn? I b'le n wir, ond dros bont Llanrwst, ac odid fawr na chyfarfyddir yna â Wil Abel, gan y treuliai'i amser o hyd galw i daro murganllaw'r bont â'i ysgwydd nes ei siglo, ac fe siglai'r bont, fel y profwyd lawer tro. Ac o byddai llif yn yr afon neidiai Wil o'r ganllaw