Llyfrau a phapurau o bob math a werthai, ac yr oedd ganddo argraffwasg ac argraffydd. Dewch i fewn i'r Sanctum fyddai'r gwahoddiad, ac i'r Sanctum yr eid. Cegin yng nghefn y siop oedd y Sanctum. Gorchuddid y ffenestrâ rhwyd gwe'r pry copyn. Ar y pared edrychai Ieuan Glan Geirionydd trwy gyfundrefnau o lwch ar ei nai, ac o dan y darlun yr oedd coffr wedi ei orchuddio â hen lyfrau a phapurau yn driphlith-draphlith. Ar ganol y llawr yr oedd bwrdd crwn yn ymddangos fel pyramid gan y pentwr o hen lyfrau a chylchgronau a ddaliai—cornel y bwrdd prin ddigon i ddal cwpan de a soser, oedd at wasanaeth ei brydiau, a'i arffed i ddal y plât. Ar y pentan yr oedd y tebot a'r tegell ar yr aelwyd, a'r gath yn ddolen o flaen y tân. Hen dderwydd oedd Gwilym yng ngwir ystyr y gair, a phrin fusnes oedd ganddo i fyw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond fel y mae pethau camamserol yn fynych yn digwydd, a chamamserol oedd yntau. Canlyniad ei gamamseriad oedd ei fod dipyn yn opiniynus, a rhy opiniynus i lanw'r safle a ddylasai. Cwrddais â'r Esgob Lloyd fwy nag unwaith yn y Sanctum, a Llawdden unwaith, a Phenfro yn aml, aml. Weithiau troai Tudno i mewn, a thrigai yntau yn yr un heol, eithr cyfeillgarwch o hyd braich oedd rhyngddynt hwy. Pellhawyd y ddau yn bellach oddi wrth ei gilydd ar waith Gwilym yn gofyn caniatâd Tudno i gladdu ysgerbwd dynol a brynasai mewn arwerthiant, ac i Tudno nacáu heb drwydded oddi wrth y Cofrestrydd i'w ddiogelu pe gorchmynasid codi'r ysgerbwd i wneuthur archwiliad i achos y farwolaeth. Ar ôl hyn ni fu ail i ddim o Gymraeg rhyngddynt. Cwplâwyd y rhwyg gan Dudno yn uno i gynnal Eisteddfod Daleithiol yn Llanrwst ar wahân i'r Arwest, a gwahodd Clwydfardd a Hwfa Môn yno i'w chyhoeddi. Ffregod gableddus oedd hyn yng ngolwg Gwilym, ac aeth i'r cyfarfod i wrthdystio. Tair gwaith y gwaeddodd yr Archdderwydd, "A oes heddwch?" a thair gwaith yr atebodd Gwilym ef, "Beth sy fynnot ti â heddwch? Dos di ar fy ôl i". A'r trydydd tro o'i glywed ymfflamychodd y dorf gan droi yn fygythiol at Gwilym a gwaeddi "I'r afon ag o". Achubwyd eu blaen gan y Prifardd Pendant trwy ffoi i ffau ei Sanctum.
Rai blynyddoedd wedyn, a henaint yn nesu, a sŵn y malu'n isel, tynnodd Gwilym ben arni yn Heol Watling drwy