XI
YSGUB O LOFFION
RHYFEDD yw fel y myn y cof ymryddhau o'r presennol a chrwydro'n ôl i'r gorffennol i loffa ymysg digwyddiadau a fu, a dwyn yn ôl ysgub neu ddwy i'r meddwl ymhyfrydu ynddynt. Hwyrnos gaeaf wrth y tân, neu hwyrddydd haf yng nghysgod llwyn, yw'r adegau mwyaf tueddol iddo gymryd y gwibiadau hyn. Yn ddiweddar daeth cyfaill heibio, a threuliodd noson dan fy nghlwyd, a chan i ni'n dau gyd-drigo yn yr un ardal bellach ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, aed i sôn am yr amser gynt. Brawychaf at nifer y blynyddoedd ! Y noson wedyn yr oeddwn yn yr un ystafell a gwaith y dydd drosodd, ac ar fy mhen fy hun yn mwynhau gwres y tân cyn ymadael am ystafell arall unwaith yn rhagor. A dyna lais, p'run ai dychymyg ai beth ydoedd, yn swnio yn fy nghlyw—
Er llawer coll ni chollais i
Mo gof y dyddiau gynt,
ac ar fy ngwaethaf yn ôl y mynnai'r cof fynd, a'r meddwl gydag ef, ac yr oedd popeth yn ffafriol i'r wibdaith. Ymddiddanion y noson gynt, distawrwydd yr ystafell, sirioldeb y tân, a'r nos wedi cerdded ymhell. Taer oedd y cof a'r meddwl am fynd, ac ni warafunwyd iddynt am dro. A ph❜le'r aent ond i'r lleoedd y buwyd yn lloffa y noson gynt, a'r lleoedd hynny oedd Dyffryn Conwy a thref hynafol Llanrwst. Odid fawr nad y cyntaf a gyfarfyddid yn Llanrwst yr amser pell hwnnw, rhwng deg a deuddeg y bore, fuasai'r Hybarch Archddiacon Hugh Jones, Rheithor Llanrwst. Yn fwy na'r cyffredin o daldra, het silc am ei ben, côb fawr hir amdano, menig am ei ddwylo, a ffon yn ei law, ac yn rhodio canol yr heol, fel y tybiai'r trefwyr, i beidio â dangos mwy o ffafr i'r naill ochr na'r llall. Dyn mawr oedd ef yn ei blwyf, mawr yn y pulpud, a mwy na mawr wrth yr allor. Ond nid gweddus fyddai cymryd un o'i urddas ef ar ein gwibdaith yn awr.
Unwaith yn Llanrwst rhaid oedd ymweled â Gwilym Cowlyd—y Prifardd Pendant—yn ei siop yn Heol Watling.