Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eisteddai ar sedd y ffenestr. "Gan mlynedd yn ôl", meddai hen batriarch y tŷ, "tafarndy ydoedd y tŷ hwn fel y gwelir wrth yr arwydd"." Unwaith eto yr oeddem yn glustiau i gyd i wrando arno yn adrodd y modd y daeth yn dafarndy. Medd oedd diod yr hen Gymru, ac fe yfid yn helaeth ohoni yn y gaeaf, ac yn enwedig yn ystod cynhaeaf y mêl, ac o'r gair 'medd' y daw'r gair 'meddwi'. Diod ddinistriol iawn i iechyd oedd y medd. A rhag i'r genedl gyflawni hunanladdiad trwy yfed medd, darparwyd tai fel y tŷ hwn i fragu diod wannach o ffrwyth yr heidden, ac fe geir hen dai fel hyn yn ymyl yr eglwysi, a hwynt-hwy fu'n foddion i sobri'r wlad. Tai dirwest oedd y rhain i ddechrau, a chyflawnasant waith da yn eu dydd.

Ac felly yr aeth y nos heibio fel y canodd Cynddelw—

Yn gwau y mae Gwen,
Gwnaf innau lwy bren,
Mor dawel mae'r nos yn mynd heibio.

Gyda Nos Da i bawb esgynnais risiau o dderi du, ac i wely deri o wneuthuriad cartref, ond cyn mynd ni allwn lai nag anadlu englyn-weddi Eben Fardd:—

Y Duw di-wyrni dod arnaf—hun cwsg
Ac yna y cysgaf,
A fy nheulu cu, os caf,
Dan len Dy aden dodaf.