Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

crwn ar yr aelwyd. Ond beth oedd y syndod pan ddywedodd y cyfaill—distaw hyd yn hyn-mai—Aelwydydd Cymru oedd crud llenyddiaeth ein gwlad a'i deffroadau crefyddol. O glywed hyn distawodd pawb gan droi eu hwynebau at y llefarwr â rhyw ddisgwyliad am chwaneg yn argraffedig ar bob wynepryd. "Ie", meddai, "aelwydydd Cymru yw crud ei llenyddiaeth a'i deffroadau, a dyma ichwi enghraifft deg o un o hen aelwydydd Cymru, nid yn gymaint fel ag y mae hi heno, er bod yr olion yma, ond fel yr oedd hi hyd 25 mlynedd yn ôl pan oedd y tân ar lawr", ac fe aeth yn ei flaen i adrodd fel y cyfarfyddai cymdogion a dieithriaid i adrodd straeon ar y no man's land rhwng rhengoedd y goleuni a'r tywyllwch, yr ysgarmesau blin â brodorion y nos, a'r gweledigaethau brawychus. Oes y rhamant a'r dychmygion oedd yr oes honno, ac nid ofergoeliaeth. A'r rhamant yw dechreuad llenyddiaeth pob gwlad. Ac ar aelwydydd Cymru y stofwyd y Mabinogion a ddylanwadodd gymaint ar drwbadwriaid Ewrop. Ac aelwydydd Cymru a baratôdd y ffordd i'r deffroadau crefyddol. Cofiai ef yn dda am ddiwygiad, neu'n fwy cywir, ddeffroad '59, y pregethau tanllyd yn disgrifio dirdyniadau'r colledigion yn annwn, a beth oedd yn fwy naturiol nag iddynt gynhyrfu meddyliau a oedd eisoes yn eirias o'r ofnadwy. Dyn cyffredin, a llai na'r cyffredin oedd Dafydd Morgan, ond yr oedd ei ddisgrifiad o'r colledigion yn arswydus. Dyna fel yr oedd hi gyda Daniel Rowland, a Howel Harris. Y llyfr a ddarllenid fwyaf o unrhyw lyfr yn y ddeunawfed ganrif oedd Y Bardd Cwsg, a chredid ef bob gair.

Aelwydydd Cymru a arloesodd y ffordd, a hwynt-hwy a fu'n siglo crud llenyddiaeth ein gwlad.

"Yr ydych wedi moli llawer ar aelwydydd Cymru", meddai merch y tŷ, a chododd o'i chadair gan roddi heibio ei hosan, ac ymhen ychydig eiliadau yr oedd lliain gwyn a glân fel pe newydd ddyfod o'r olchfa ar y ford gron a chwpanau pren a llwy bren ymhob un, a'r crochan uwd ar drybedd fechan ar y ford a'r llefrith a'r enwyn mewn dwy jwg yn ymyl, a gwahoddiad i bawb i estyn ati a'i helpu ei hun o swper Cymreig ar aelwyd Gymreig.

Trowyd eilchwyl at y tân a'r ferch yn clirio'r ford ac yn golchi'r llestri ar y ford fawr, ac yn ymgomio â'r plant a