Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mlynedd ar hugain diwethaf, pryd y gorfodwyd rhoddi grât ar gyfer glo, am fod y fawnog wedi ei gweithio allan. Dyhuddid y tân bob nos, a dadebrid ef bob bore, ac anffawd amheus fuasai iddo ddiffodd. Gosodai'r tân ryw gysegredigrwydd ar yr aelwyd a chreai ryw awyrgylch cyfriniol y gellid ei deimlo, a pha ryfedd pan gofir mai'r tân, yn ôl Darwin, yw prif ddarganfyddiad y byd. Hawdd dyfalu'r gofal i gadw'r elfen gyfriniol hon yn fyw pan ddarganfuwyd hi gyntaf, a'r pryder o'i cholli wedi ei chael, a bu'r pryder yna a'r gofal i'w teimlo o'r amser pell hwnnw y sy'n awr yn ymlochesu yn niwl y gorffennol, hyd ein dyddiau ni. Ac nid rhyfedd i'r cysegredigrwydd hwn barhau cyhyd ag y parhaodd y tân ar yr aelwyd ac iddo ddiflannu gyda dyfodiad y grât a'r glo.

Dan fantell y simnai a thanllwyth ar yr aelwyd, a'r gwynt yn chwibanu yn y simnai, a'r penteulu yn ei gadair freichiau o dderw du, a brenhines yr aelwyd ar gadair arall is gyferbyn, a rhyngddynt hanner cylch o blant yn fechgyn a merched, ac yn gymysg â hwynt ddau neu dri o gymdogion neu gymdogesau—dyna oedd yr aelwyd Gymraeg pan oedd Bess yn teyrnasu, ie, a chyn Bess, a hefyd ar ôl dyddiau Bess.

"Da y cofiaf yr hen aelwyd Gymreig, ac yn wir yr hen aelwyd hon cyn y grât a'r glo", meddai un o'r ddau gymydog, ac yntau'n pwyso'n drwm ar ei bedwar ugain, ac aeth yn ei flaen i adrodd yr hanes.

Noson Gwau Gwryd. Cofiai am wragedd a merched y fro yn dyfod ynghyd, ac ynghyd i'r aelwyd honno, i dreulio noson lawen, ac i wau gwryd. Mesurid yr un faint o edafedd i bob un, a hwnnw o hyd gŵr. Byddai tanllwyth ar yr aelwyd, y crochan llymru yn crogi'n uchel wrth y bach, a channwyll newydd yn Siôn Segur, a dyna ddechrau ar wau.

Am awr dda ni chlywid ond y gweill yn clecian, y crochan yn berwi a chwerthiniad iach ar y straeon chwaethus a digrif a'r dywediadau pert. Y gyntaf a orffennai'r gwryd oedd y gyntaf ohonynt i briodi, ac fe ddigwyddodd hynny unwaith i hen ferch a oedd wedi gweld ei 70, a mawr oedd llawenydd ac ysmaldod y lleill, a hithau yn treio ei chysuro'i hun yn wyneb fath aflwydd trwy ddywedyd, "Wel, wel, dyna'n diwedd ni i gyd".

Gwrandawyd ar stori'r gwau gwryd â chlustiau a geneuau agored, yn enwedig y tri phlentyn a eisteddai o fewn y cylch