Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fellten yr Eglwys o gwr i gwr a dangos y groes ar yr

allor yn danbaid, ac o fewn eiliad neu ddwy dyna daran fel pe'n disgyn ar do'r Eglwys ac yn ymrolio a marw yn y pellter, ac ar ei hôl un arall, ac un wedyn, a'r mellt yn gwau'n frawychus. A chyda hyn dyma'r glaw yn disgyn fel petasai cwmwl wedi torri; disgynnai'n syth nes tasgu o'r defnynnau ar y palmant.

Manteisiais ar y cyfleustra cyntaf i redeg am nodded i'r Llew Coch yr ochr arall i'r ffordd ac nid oedd nepell. Cegin hen ffasiwn oedd yno ac aelwyd gysurus, a hen ŵr yn eistedd yn ei gadair freichiau a golwg urddasol a phatriarchaidd arno. Fe'm hysbysodd nad oedd moddion yn y byd yno i'm hebrwng i'r orsaf nac unman arall, a pherygl bywyd fyddai mentro allan ar y fath law, yn enwedig heb ddarparu ar ei gyfer. Amaethdy oedd y Llew Coch yn awr er iddo fod yn dafarndy unwaith a'r hen enw'n glynu wrtho o hyd.

Byw gyda'i ferch ydoedd ef, a hithau'n weddw. Wrth ymgomio â'n gilydd o bobtu i'r tân, a'r gath yn rhyw bendwmpian ar yr aelwyd ac yn deffro i olchi y tu ôl i'w chlust â'i phawen, yn arwydd o ddyfodiad rhyw ymwelydd, daeth y ferch i mewn a phrysurodd i ddarparu cwpanaid o de, ac yng nghwrs yr ymgom o amgylch y ford fach gron deellais i'r hen ŵr fod yn yr un hen ysgol â minnau, ond flynyddoedd yn gynharach.

Pistyllai'r glaw, a derbyniais wahoddiad y teulu i aros yno y noson honno. Yr oedd gwaith y dydd drosodd yn awr, a'r ferch wedi gafael yn ei hosan a dechrau gwau a ninnau'n dau'n ymgomio am yr hen amser gynt.

Yn ôl arwydd y gath daeth cymydog i mewn, a chyn braidd iddo eistedd dilynwyd ef gan un arall. Yr oeddwn yn awr yng nghwmni triawd o hen batriarchiaid diddan a pharablus, a'r crochan â'r uwd yn berwi ar y tân.

Digwyddais ddywedyd mai aelwydydd croesawgar a chysurus oedd hen aelwydydd Cymru. "Ie", meddai hen batriarch y tŷ, "croesawgar o hyd, ond cysurus! Wel, pan oedd y tân ar lawr, yr oedd cysur y pryd hwnnw". Ac yna aeth yn ei flaen i adrodd am ei daid yn ddyn ifanc yn dyfod o Sir Gaernarfon i Sir Feirionnydd, a dwyn gydag ef y tân mewn crochan i gadw'r olyniaeth rhwng yr hen breswyl a'r newydd, ac arwydd o anlwc fuasai i'r tân ddiffodd. Ac ni fu diffodd ar y tân ar aelwyd y Llew Coch hyd o fewn y pum