Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o lygaid yn sefydlog arni heblaw llygaid gwgus ei phen a'i phriod, ac yn ei dilyn i'w chadair ar dalcen arall y ford, a hithau yn wrid o glust i glust. Eisteddwyd a gwasgarwyd y bwyd-gerdynnau yn Ffrangeg, ac yr oedd y rhestr yn hir. Oedd, yr oedd yno ryddid i siarad Cymraeg, a chymhellwyd y gwahoddedigion i arfer eu hiaith gan fod y gwesteiwr a'r westeiwraig yn hoffi clywed yr hen iaith yn cael ei siarad.

Ymh'le'r oedd dechrau ar restr o fwyd mor hir, ac a ddisgwylid iddynt fynd trwyddi i gyd, ac ymh'le oedd orau dechrau? Gofynnwyd yn Gymraeg i rywun yn ymyl, a heb fawr feddwl y gweithredid ar ei ateb awgrymodd ddechrau ar y gwaelod a gweithio i fyny. Dechreuodd rhai yn y dechrau, eraill tua'r canol, ac un neu ddau yn y gwaelod a rhoddid croes â phensel ar gyfer pob tamaid a ddygid iddynt, i'w diogelu rhag gofyn am yr un peth ddwywaith. Pan welodd yr Arglwyddes y ffrwythau a'r cwpanau dŵr-golchi-bysedd, ar bîff, a'r pwdin reis, a'r plwm pwdin, yn dyfod i'r bwrdd, gofynnodd iddynt ei hesgusodi i nôl ei chadach poced, a chyn cyrraedd ymron ddrws yr ystafell cafodd ffit ddrwg o besychu. Arbedwyd unrhyw brofedigaeth gyda'r cwpanau dŵr ar waith y gweinidogion yn mynd o gwmpas â dŵr sinsir wedi ei dywallt o boteli llydain eu gwaelod ac yn culhau at y gwddf, a'r dŵr sinsir gorau a melysaf a brofwyd erioed. Dychwelodd yr Arglwyddes i'w sedd, eithr yr oedd rhywbeth yn ei gwddf yn debyg i blentyn â'r pâs, ac nid oedd ei Harglwydd wrth dalcen arall y ford yn rhydd o garthu ei wddf yn fynych. Llenwid y cwpanau â'r dŵr sinsir yn gyson, a llyncid ef cyn gynted ag y'i rhoid, nes llanw yr ystafell â sŵn y corcynnau a dynnid gan y pentrulliad, nes gwneuthur i ddyn feddwl ei fod ar Faes Bosworth.

Tynnwyd at y diwedd, ac ymneilltuwyd i ystafell yr ymgom, y te a'r coffi a'r myglys, a'r gwesteiwr a'r westeiwraig wrth eu bodd yng nghwmni syml ac unplyg natur dda. Drannoeth yr oedd Arwest Glan Geirionydd, a diwrnod arall i'r brenin.