Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XII

YSGUB ARALL O LOFFION

DRANNOETH i'r wledd yng Nghastell Gwydir yr oedd Arwest Glan Geirionydd, a'r Wŷs a'r Gwahawdd wedi eu hanfon i'r frawdoliaeth gyfarfod yn llety'r Prifardd Pendant yn brydlon erbyn hanner awr wedi saith yn y bore. Cododd yr haul y bore hwnnw ar ddiwrnod na fu ei fath cynt na chwedyn. Suai awelon mwyn Awst gyda digon o fin arnynt i ymlid ymaith bob syrthni, a symbylu hoenusrwydd corff ac ysbryd, oni chreid teimlad ei bod yn werth byw, a byw i fynd i Arwest Glan Geirionydd. Cychwynnais o'r tŷ mewn digon o amser i gyrraedd yn hamddenol y man penodedig. Gwelwn rai o'r frawdoliaeth yma ac acw yn gwneuthur am yr un cyfeiriad. A chennyf ddigon o amser cyfeiriais fy ngherddediad tua'r orsaf, a gwelwn Elis o'r Nant yn dyfod â'i wyneb llon yn bradychu direidi ei galon. Cyd-gerddasom yn ôl i gwrdd â Thudno yn ei gôt fawr hyd ei sodlau ymron, gyda ffon yn ei law a modrwy ar ei fys, ac yn ei gwmni ef aed i lety Gwilym Cowlyd.

Yno yr oedd Penfro ac un neu ddau arall. Ar y bwrdd yr oedd y corn gwlad a'r hen gleddyf yn ei wain yn gorffwys yn ei ymyl, ac yn pwyso ar yr hen gwpwrdd tridarn gyferbyn â'r ffenestr yr oedd ysgub dda o wyngyll. Yr oedd golwg urddasol a difrifol ar y Prifardd Pendant wedi rhannu ei wallt ar ochr ei ben er mwyn bod yn do dipyn tewach ar y corun. Disgynnai ei wallt yn bwythau sythion hyd ymylon colar ei gôt, a chyrliai ychydig yn ei flaenion. Yr oedd pob blewyn yn ei le, ac wedi ei arfaethu gan yr ennaint i gadw ei le am y gweddill o'r dydd hwnnw, beth bynnag. Mynych yr ymwelai'r bys a'r bawd â'r blwch snisin arian a oedd yng nghadw yn ei law aswy, a dyrchafai beth ohono at ei drwyn, a disgynnai peth ohono yn ronynnau gloywddu i lawr ei farf ar hyd ymylon ei wisgoedd. A phawb yn barod ac ar eu traed, ac yn arfog â'r gwyngyll, anerchwyd y frawdoliaeth cyn cychwyn gan Wilym Cowlyd, a dymunai ar i bawb fod yn weddus a difrifol, a llygadai ar Elis, canys yr oeddynt yn mynd i Fynydd y Tŷ. "Mynydd oedd ef ddoe", meddai,