Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gydag oslef mynach o'r Oesoedd Canol, "a mynydd fydd e fory, eithr heddiw y mae'n Fynydd y Tŷ, a gweddus yw i bawb gofio hynny", a thaflodd olwg eilwaith at Elis.

Cychwynnwyd i'r daith yn orymdaith lawen, ac ar bont Llanrwst rhoddwyd bloedd ar y Corn Gwlad onid oedd y sŵn yn atseinio o Garreg y Gwalch. Dilynwyd y ffordd sydd yn arwain i'r ffordd rhwng Betws-y-coed a Threfriw, ac arhoswyd yno yn ymyl hen dderwen ar ymyl y ffordd, a elwid y Pren Gwyn, a pherthynai hanes diddorol iddo. Unwaith ymhell bell yn ôl ymwelai hen wrach yn achlysurol â'r Pren Gwyn, oedd ei hofn a'i harswyd ar yr holl fro. Rheibiai wartheg a defaid a cheffylau, a hyd yn oed y trigolion eu hunain, a daeth yn ddychryn gwlad. Heb fod yn hir ar ôl dymchweliad y mynachlogydd yr oedd hyn.

Cyfnod oedd hwnnw y gollyngwyd llawer iawn o ysbryd-ion drwg yn rhyddion, ac i'r cyfnod hwnnw y perthynai hen wrach y Pren Gwyn. Aeth yr hanes amdani i glustiau Syr John Wynne o Wydir, ac nid un i gellwair ag ef oedd yr hen Farchog wedi yr enynnai ei lid. Penderfynodd waredu'r wlad o'r hen wrach, ac i'r diben hwnnw ymwelodd â'r lle, ac yr oedd y lle yn ymyl ei gastell. O'i weled dringodd yr hen wrach i frigau'r goeden, ac oddi yno taranai felltithion ar ben ei hymlidydd, a rhybuddiai ef o'r dynged a oedd yn ei aros, y byddai i'w enaid gael ei gladdu dan raeadr y Wennol yn Nyffryn Lligwy, ac mai yn ôl lled gwenithen y flwyddyn y dychwelai i'w gastell. Ond beth oedd dwrn y Babaeth at ddwrn yr hen Farchog? Yntau yn gweled nad oedd ei gymhellion yn tycio a gyneuodd dân wrth fôn y Pren Gwyn i fygu'r hen wrach i lawr. Pa un a lwyddodd yr oruchwyliaeth honno ai peidio nid oes a ŵyr yn awr, gan fod tafod traddodiad yn ddistaw ar y pen. Fodd bynnag, cafodd y fro lonydd byth wedyn, ac nid yw'n anodd dyfalu tynged yr hen wrach o feiddio gwrthsefyll un o dymer yr hen Farchog, ond nid heb i'r tân losgi twll dwfn i foncyff yr hen dderwen, ac i'r ceudod hwnnw yr edrychid y bore dan sylw.

Mewn oesau diweddarach trowyd ceudod llosg y Pren Gwyn yn llythyrdy gan herlod y fro o Faethebrwyd, a thir Abad, a Felin-y-coed, i fyny i Gapel Garmon ar un llaw a Maenan ar y llaw arall. Yno y gosodent eu peithynod serch a'u harwyddion cyfrin. Llawer tro y gwelid geneth ieuanc