Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn yr hen wisg Gymreig, na fu ei thebyg mewn harddwch, yn dynesu'n llechwraidd i deimlo am ei pheithynen neu ei rhoddi yno, ac wedyn yn diflannu fel ewig ofnus, ac yn wrid o glust bwy'i gilydd gan yswildod, ac yn rhyw feddwl bod llygaid y fro arni. Cyn ymron inni orffen adrodd a gwrando yr hanesion hyn gwelem ddyn mewn gwasgod wen yn dyfod o gyfeiriad Betws-y-coed.

Un o wahoddedigion y wledd y noson gynt oedd ef wedi colli ei ffordd adref a mynd i Gapel Garmon, lle y caed ef ar lasiad y dydd yn holi'n flinedig am heol Dinbych yn Llanrwst. Yr oedd yntau wedi derbyn y wŷs i'r Arwest, ond ofnai ymddiried y daith i aelodau mor flinedig ag oedd yn ei gario y bore hwnnw, er bod ei feddwl yn barod. Aeth ef adref a ninnau yn ein blaen ar hyd y ffordd sy'n arwain i Nant Bwlch yr Heyrn. Ac wrth droi ohoni heibio i'r rhaeadr a elwid Cynffon y Gaseg Wen, arhosodd yr Archdderwydd Gwilym, a chyfeiriodd at y Nant, gan ddywedyd i fuddugoliaeth gael ei hennill yno, a daflai frwydr Waterloo i'r cysgod, ac os mynnem, gwnâi adrodd yr hanes wrth rodio ar hyd y darn hwnnw o'r llwybr. Bron nad oedd yr olwg arddunol ar Ddyffryn Conwy y bore hwnnw, ac anian yn casglu ei phylacterau ynghyd i ddatguddio'r afon, yr hen afon, Afon Gonwy, fel sarff arian yn ymdroelli trwy'r dyffryn, nad oes ei harddach yng Nghymru, yn peri inni droi clust fyddar i Wilym, a mwynhau yn hytrach y golygfeydd arddunol a oedd o'n blaen, ond fel arall y bu, ac ni fu'n edifar gennym, canys cawsom glywed ganddo hanesyn a gynhyrfodd ein teimladau hyd at ollwng deigryn.

Dechreuodd adrodd fel yr oedd rai blynyddoedd yn ôl ŵr a gwraig newydd briodi yn dechrau eu byd yn y Nant. Rhyw dyddyn bychan oedd ganddynt. Yr oedd yr amser yn galed, a llawer o ddioddefaint a newynu oni bai am yr hen dirfeddianwyr caredig a maddeugar yn troi'n ôl beth o'r rhenti. Dechreuasant o ddifrif ar eu byd yn y blynyddoedd celyd hynny. Dygent eu nwyddau i farchnad Llanrwst. Cymhellai hi ef i aros gartref, ond ni fynnai ef iddi hi gario'r basgedi ei hunan gan gymaint ei serch ati, ac arhosai yn y dref i gario'r basgedi gweigion yn ôl. Aeth blynyddoedd heibio heb i ddim neilltuol dorri ar eu heddwch mwy na bod mwy o eneuau i'w porthi a chyrff i'w dilladu. Faint oedd ei gofid