Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hi un diwrnod pan welodd arwyddion iddo ef fod dan arwydd y Llew Gwyn a'r Ceffyl Du, ac eto, ni fynnai ddywedyd gair i glwyfo priod mor serchog a thad mor dyner. Cynyddodd yr arwydd yn raddol gydag amser, a daeth y byd i wasgu fwy fwy o'r naill flwyddyn i'r llall, a hithau o hyd yn parhau yn ei distawrwydd rhag clwyfo ei deimladau. Un prynhawn methodd ef â'i chyfarfod hi fel arfer i gario'r basgedi gweigion, ac aeth adref ei hun a'i chalon yn gostrel o ofid. Fe'i cyhuddai hi ei hunan o ddiofalwch, a chyhuddai bawb ond y fo. Ac eto yn ei gofid cadwai'r cwbl iddi hi ei hunan. Un diwrnod marchnad, ac yntau heb ddyfod i'w chyfarfod, mentrodd fynd yn ddistaw trwy ddrws tŷ arwydd y Llew Gwyn, a thrwy gil dôr yr ystafell gwelai ei gŵr yn swrth a'i ên ar ei frest. Trodd hithau yn ei gwrthol, a brysiodd adref i roddi te i'r plant, a'u hwylio i'r gwely rhag gweld eu tad. Golwg dosturus oedd arno y noson honno pan ddychwelodd adref. Fore trannoeth dywedodd fod arno eisiau mynd ar neges i'r dref, a rhoes ryw esgus. Na, nid oedd dim i'w rwystro ond yn unig ei bod hi wedi paratoi ar gyfer corddi yn y prynhawn, ac yr hoffai gael ei help. Atebodd yntau y byddai'n ôl mewn pryd i'r awr gorddi, a bu yn unol â'i air; llonnodd hithau drwyddi, er mai ychydig o help a allai ef roddi. Aeth wythnosau heibio heb un arwydd o ddiwygiad. Gwelai hi erbyn hyn ddinistr y gŵr a garai, a beth oedd bywyd iddi hi, hyd yn oed yng nghwmni ei phlant, hebddo ef? Dydd y farchnad a ddaeth, a'r prynhawn hwnnw aeth hi yn eofn a llygaid llaith drwy ddrws tŷ arwydd y Ceffyl Du. Yno yr oedd ei gŵr yng nghanol ei gymdeithion. Ond O! mor wahanol i'r hyn ydoedd yn ei gartref. Clywodd ei lais garw a oedd yn fiwsig yn ei chlustiau hi gartref, a'r iaith anweddus yn disgyn dros wefusau a oedd felysach ar ei grudd na diferion y diliau. Diflannodd pob pelydr o obaith o ddiwygiad, a chan roddi ei basgedi ar lawr, curodd y bwrdd, a thrawodd y curo y cymdeithion â syfrdandod, a galwodd am yr un peth ag a oedd gan ei gŵr, a thaflodd ddernyn o arian ar y ford. Ond cyn iddi roddi'r gwefusau tyner hynny at y cwpan, neidiodd y gŵr ar ei draed, a chyda'r llais hwnnw a oedd yn fiwsig ar ei chlyw dywedodd wrthi, "Paid, Nans fach, nid dyma dy le di. Tyrd, fy ngeneth i, adref". Ac